Cylch yr Orsedd

Gŵyl y Cyhoeddi

Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Casnewydd a'r Cylch, 1987
Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch, 1987 gyda Elerydd (W.J.Gruffydd) yn Archdderwydd a Gwyn Tre-garth yn arwain y canu ar y Maen Llog.

Mae'n rhaid cyhoeddi bod Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd y Beirdd yn ymweld â bro arbennig o leia flwyddyn a diwrnod ymlaen llaw. Yn ystod y seremoni bydd y Cofiadur yn darllen Sgrôl y Cyhoeddi a chyflwynir y copi cyntaf o Restr Testunau Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn ganlynol i'r Archdderwydd.

Pan gynhaliodd yr Arglwydd Rhys ymryson rhwng beirdd a cherddorion yng nghastell Aberteifi yn 1176 nodwyd i'r cyfarfod gael ei gyhoeddi ledled Cymru, yr Alban, Iwerddon, Lloegr a'r ynysoedd eraill, flwyddyn ymlaen llaw. Pan ail-sefydlwyd eisteddfodau ddiwedd y ddeunawfed ganrif penderfynwyd mabwysiadu'r drefn o gyhoeddi ymlaen llaw ac yn 1791 dewisodd Iolo Morganwg yntau gyhoeddi y byddai seremoni gyntaf Gorsedd y Beirdd yn cael ei chynnal ymhen blwyddyn a diwrnod ar Fehefin 21, 1792 ar Fryn y Briallu yn Llundain. Mae'r patrwm hwn wedi parhau hyd heddiw.

O gerrig mân i gerrig ffug

Y Maen Chwŷf a Chylch yr Orsedd, Pontypridd
Y Maen Chwŷf a Chylch yr Orsedd, Pontypridd

O fewn cylch Meini'r Orsedd y cynhelir yr Ŵyl Gyhoeddi a'r seremonïau gorseddol yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Mae'n debygol fod beddfeini trawiadol Avebury yn Wiltshire a Dyffryn Golych yn ei gynefin wedi dylanwadu ar weledigaeth Iolo Morganwg o gylch meini derwyddol Celtaidd ac felly roedd cylch o feini â Maen Gorsedd yn ei ganol yn yr Orsedd gyntaf yn 1792. Fodd bynnag, wrth iddo geisio cyplysu'r Eisteddfod â'r Orsedd yng Nghaerfyrddin yn 1819 y cyfan oedd gan Iolo wrth law oedd dyrnaid o gerrig mân. Dim ond Beirdd oedd yn cael mentro i mewn i gylch cyfrin y meini.

Ym Morgannwg gwelwyd fod gorsedd naturiol o gwmpas y Maen Chwŷf, darn anferth o graig llechfaen, ger Eglwysilan, a chynhaliwyd sawl gorsedd yn enw Cadair Morgannwg arni yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ddiwedd y ganrif, er mwyn cael trefn ar bethau, aeth yr Arwyddfardd - Arlunydd Pen-y-garn, ati i lunio cynllun manwl o Gylch yr Orsedd a dilynwyd hwn yn Eisteddfod Caerdydd, 1899. Yn ôl y cynllun hwn roedd y maen tua'r dwyrain, y Maen Cyfamod a'r ddau Faen Porth i ffurfio siap y Nod Cyfrin. Am gyfnod bu'n ffasiynol i wisgo'r meini â deiliach derw ac uchelwydd.

I hwyluso cynnal seremonïau'r Orsedd ar y maes ei hun yn ystod wythnos yr Eisteddfod, penderfynwyd, yn 2004, defnyddio meini plastig ond realistig yr olwg.

Y Cylch yn ystod wythnos y Steddfod

Seremoni yng Nghylch yr Orsedd yn y Castell, Aberystwyth, tua 1916.
Tyrfa enfawr yn gwylio seremoni yng Nghylch yr Orsedd yn y Castell, Aberystwyth, naill ai adeg y Cyhoeddi yn 1914 neu yn ystod wythnos yr Eisteddfod ei hun yn 1916.

Defodau bore Llun

Cyflwynir y Corn Hirlas i'r Archdderwydd a chroesewir y Celtiaid a chynrychiolwyr tramor eraill gan yr Orsedd. Bydd y Cofiadur yn coffáu'r Gorseddogion sy wedi marw yn ystod y flwyddyn a chenir emyn coffa. Yna daw defod urddo aelodau newydd trwy arholiad neu radd - i Urdd Ofydd neu Urdd Bardd, Cerddor neu Lenor.

Defodau bore Gwener

Cyflwynir y Flodeuged i'r Archdderwydd a pherfformir y Ddawns Flodau. Yna derbynnir aelodau newydd trwy anrhydedd i Urdd Derwydd yng Ngorsedd.

Urddo aelodau newydd

Aelodau newydd o'r Orsedd a urddwyd yn Abertawe, 1962
Ymgeisiwyr ifanc llwyddiannus (13-14 oed) yn arholiadau'r Orsedd a urddwyd yn aelodau yn Abertawe, 1962.

Mae tair Urdd yng Ngorsedd y Beirdd:

  • Urdd Ofydd: y wisg werdd. Bydd ymgeiswyr sy'n pasio Lefel 1 a 2 yn arholiadau'r Orsedd, mewn barddoniaeth, rhyddiaith, cerddoriaeth neu brofion i delynorion a datgeiniaid yn cael eu derbyn i'r urdd hon. Gellir urddo aelodau er anrhydedd am gyfraniad o safon cenedlaethol i'r wisg werdd hefyd. Urddwyd sawl aelod o'r teulu brenhinol, yn eu plith y Frenhines, Dug Caeredin, a'r Brenin Siôr i'r urdd hon.
  • Urdd Bardd, Cerddor neu Lenor: y wisg las. Ar ôl pasio arholiad terfynol yr Orsedd y ceir mynediad i'r Urdd hon. Gall y sawl sy wedi graddio mewn Cymraeg neu gerddoriaeth (ac sy'n gallu siarad Cymraeg) wisgo'r wisg las yn ogystal.
    Ar fore dydd Llun yr urddir y rhain i'r Orsedd. Bydd yr Arwyddfardd a Cheidwad y Cledd yn mynd at borth y Cylch ac yn dal y Cleddyf ar ei draws a chael gan bob aelod newydd i osod ei law dde ar lafn y Cledd. Ar ôl eu hurddo arweinir hwy gan y Disteiniaid at Feistres y Gwisgoedd i'w harwisgo â phenwisg eu hurdd.
  • Urdd Derwydd - y wisg wen. Mae enillwyr y prif gystadlaethau - y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith yn cael eu hurddo yn awtomatig i'r Wisg Wen. Bydd eraill yn cael eu 'dyrchafu' yn Dderwyddon o'r wisg werdd neu'r wisg las. Bob blwyddyn hefyd bydd cymwynaswyr arbennig y genedl yn cael eu hanrhydeddu - yn eu plith cantorion ac actorion byd-enwog fel Bryn Terfel, Sian Phillips ac Ioan Gruffudd; enwogion fel Archesgob Caergaint, y Gwir Barchedig Rowan Williams a chwaraewyr rygbi a phel-droed enwog.

Roedd urddau gwahanol yng Ngorsedd gyntaf Iolo Morganwg yn 1792 ond pwysleisiai Iolo bod yr urddau yn gyfartal o ran statws. Erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd consýrn gwirioneddol am deilyngdod yr urddau a dechreuodd yr ysgolhaig, John Morris-Jones, feirniadu'r graddau oherwydd, meddai, 'derbynnir ymgeiswyr yn aelodau drwy arholiad sydd bum gwaith yn haws nag arholiad isaf Prifysgol Cymru, ...'. Ar ôl hyn aethpwyd ati o ddifrif i arholi ymgeiswyr yn ofalus i godi safonau.

Dyddiad yr erthygl: 25 Gorffennaf 2010

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar