Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Cleddyfau, cyrn a nodau cyfrin

Cleddyfau, cyrn a nodau cyfrin

Symbolau a regalia'r Orsedd

Cynllun T.H.Thomas o Gylch Meini'r Orsedd, 1901
Cynllun T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, yr Arwyddfardd, o Gylch Meini'r Orsedd, 1901

Yn ystod y ddwy ganrif ers sefydlu'r Orsedd gyntaf, fe ddatblygodd yn ei seremoniau nifer o symbolau a regalia sydd wedi ychwanegu'n sylweddol at liw a chymeriad yr Eisteddfod.

Yn y seremoni i gyhoeddi y bydd Eisteddfod a Gorsedd yn cael eu cynnal mewn man penodol ar ôl blwyddyn a diwrnod bydd Cofiadur yr Orsedd yn darllen Sgrôl y Cyhoeddi.

Defnyddiwyd Sgrôl yn 1791 cyn yr Orsedd gyntaf un. Yn y Sgrôl gyntaf hon gwelir nifer o nodweddion sgroliau diweddarach; nodir:

  • y flwyddyn a'r tymor;
  • ymhle y cynhelir yr Orsedd;
  • na fydd 'noeth arf' yn erbyn y beirdd;
  • rhai o'r cyswyneiriau a ddaeth yn rhan anhepgor o seremonïau'r Orsedd wedi hynny, megis: 'Yn Llygad Haul, wyneb Goleuni'; 'Duw a phob Daioni'.

Ychwanegwyd y 'Nod Cyfrin' at Sgrôl y Cyhoeddi gan Talieisn ab Iolo yn 1833. Yn 1946 lluniodd yr arlunydd, Meirion Roberts, Sgrôl newydd hardd a rhoddwyd hi i'r Orsedd gan Mam o Nedd. Wrth ei dylunio mewn du, coch ac aur, llwyddodd Meirion Roberts i ymgorffori Cleddyf Mawr a Chorn Gwlad yr Orsedd ac arfbais Tywysogion Gwynedd yn y brif lythyren Geltaidd addurniedig. O amgylch y testun cyflwynodd arfbeisiau tair sir ar ddeg Cymru (cyn 1974); dail derw, mes a draig goch ond nid yw'r Nod Cyfrin ar y Sgrol o gwbl.

Y Corn Gwlad

Y Corn Gwlad
Y Corn Gwlad

Mae seiniau'r ddau Gorn Gwlad yn rhan anhepgor o ddefodaeth yr Orsedd yng nghylch yr Orsedd ac yn arbennig wrth iddynt alw'r buddugwyr i lwyfan y genedlaethol.

Does dim sicrwydd pryd y cynhwyswyd ffanffer Corn Gwlad gyntaf yn y seremonïau ond erbyn yr 1860au roedd 'udganiad yr udgorn' yn rhan 'arferol' o ddefod y Maen Llog.

Yn Eisteddfod Wrecsam, 1888, cyflwynodd Edward Jones, Maer Pwllheli, Gorn Gwlad arian at ddefnydd yr Orsedd. Yna, yn 1900 nododd Alicia A. Needham, cyfansoddwraig Wyddelig ei bod wedi archebu trwmped arian newydd ag arno faner y ddraig goch. Meddai:

'I know it will look much more dignified and appropriate than the Cornet which was used at Cardiff, and which seemed altogether too modern.'

Cynlluniwyd gŵn a chapan yr utganwr gan Isaac Williams, Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1923.

Bu aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig yn utganwyr cyson wedi'r Ail Ryfel Byd ac yn 1947 cyfansoddodd Haydn Morris (Haydn Bencerdd) ffanffer ar gyfer yr amryfal seremonïau. Ers hynny gwasanaethwyd yr Orsedd gan nifer o utganwyr. Erbyn hyn roedd pâr o utgyrn arian o seremoni Goroni'r Frenhines (1953) yn cael eu defnyddio. Cyflwynwyd hwy i'r Orsedd gan Gronfa Goffa y cyn-Arwyddfardd, Sieffre o Gyfarthfa a brodiwyd y banerigau pendant gan Miss Iles, Brynsiencyn.

Y Cleddyf Mawr

Y Cleddyf Mawr yn y Seremoni Cyhoeddi
'A oes heddwch?' Y Cleddyf Mawr yn cael ei ddefnyddio yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2010 yng Nglyn Ebwy.

Un o ddefodau hynaf yr Orsedd yw seremoni dadweinio'r Cleddyf Mawr yn rhannol. Bydd yr Archdderwydd yn datgan y cyswyneiriau canlynol a'r gynulleidfa yn ateb 'Heddwch' iddynt deirgwaith:

'Y gwir yn erbyn y byd, A oes Heddwch? Calon wrth galon, A oes Heddwch? Gwaedd uwch adwaedd, A oes Heddwch?'

Yr oedd cario cleddyf yn rhan o ddefodaeth Gorsedd gyntaf Iolo Morganwg yn 1792. Fel heddychwr pwsyleisiai Iolo mai mewn heddwch yr ymgynullai beirdd Gorsedd Ynys Prydain a phan osodwyd cleddyf noeth ar Faen yr Orsedd cynorthwyodd y beirdd oedd yn bresennol i wisgo'r wain amdano fel arwydd o Heddwch yng Ngorsedd. Defod ar wahân oedd yr un lle gelwid allan am 'Heddwch' ar y dechrau ond yn raddol daethpwyd i'w chysylltu â defod y cleddyf.

Yn Eisteddfod Wrecsam, 1888, cyflwynodd Phillip Yorke o Blas Erddig gleddyf seremonïol a ddefnyddiwyd tan droad y ganrif. Yna, yng Nghaerdydd, 1899, cynlluniodd yr Athro Hubert Herkomer Gleddyf Mawr ar gyfer Gorsedd y Beirdd. Eglurodd symboliaeth y cynllun:

  • crisial naturiol y carn yn cynrychioli cyfriniaeth;
  • y tair llinell sanctaidd yn cynrychioli'r ymdrech gyntaf i ysgrifennu 'Iehofa';
  • y ddraig - i'w gwarchod.
  • Ar y wain roedd y cyswyneiriau:
    'Y gwir yn erbyn y byd' (cyswynair Gorsedd Beirdd Ynys Prydain)
    'Duw a phob Daioni' (Cadair Morgannwg a Gwent)
    'Calon wrth Galon' (Cadair Dyfed)
    'A Laddo a Leddir' (Cadair Powys)
    'Iesu na ad gamwaith' (Cadair Gwynedd).

Dyma'r Cleddyf Mawr a ddefnyddir heddiw.

Y Nod Cyfrin

Yr Archdderwydd Brinli (1972-75); Brinley Richards.
Yr Archdderwydd Brinli (1972-75); Brinley Richards.

Y Nod Cyfrin neu y Nod Pelydr Goleuni - symbol /|\ a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg i gynrychioli rhinweddau Cariad, Cyfiawnder a Gwirionedd.

Eto, ni wnaeth Iolo ei hun fawr ddefnydd o'r symbol, ond wedi iddo farw daeth yn fwyfwy poblogaidd. Fe'i gwelwyd am y tro cyntaf ar Sgrôl y Cyhoeddi yng Nghaerdydd, 1833. Erbyn 1850 roedd ar y baneri a welid mewn gorseddau ac o tua 1860 ymlaen ar dystysgrifau urddo aelodau newydd.

Erbyn diwedd y ganrif yr oedd yn symbol cymeradwy ar gyfer Gorsedd y Beirdd ac yn ymddangos ar drefnlenni'i seremonïau, ar y Faner newydd ac weithiau hyd yn oed ar feini'r Orsedd.

Ers y 1950au penderfynwyd fod yn rhaid cynnwys symbol y Nod Cyfrin ar bob Cadair a Choron genedlaethol.

Baner yr Orsedd

Baner yr Orsedd
Baner yr Orsedd yng Ngŵyl Cyhoeddi Eisteddfod 2011 yn Wrecsam

Ymddengys rhyw fath o faner yn nifer o seremonïau gorseddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gellir gweld baner syml ag arni 'Gorsedd Beirdd Ynys Prydain' mewn darlun o Orsedd Aberhonddu, 1889.

Fodd bynnag, y Faner swyddogol gyntaf oedd yr un a ddyluniwyd gan yr Arwyddfardd, T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, ar gyfer Gorsedd Llandudno yn 1896. Meddai:

'In the upper part is seen the sun symbolising celestial light, bearing upon it the golden dragon, at once a symbol of energy and the badge of Cambrian nationality; from the sun emerge golden rays, three of which are prolonged downwards forming the 'Nod Cyfrin' of the 'Awen'. ... The lower part of the design represents, in symbol, the Gorsedd of the Bards of the Isle of Britain ... Around the 'Maen Llog' are the twelve 'meini gwynion'; ... Upon the 'Maen Llog' may rest a sheathed sword...
Around the Gorsedd Circle are deposited the plants representing the 'Alban' - trefoil, vervain, corn and mistletoe. The whole design is surrounded by a wide decorative border of oak leaves with acorns from which at parts mistletoe arises.'

Mae'r holl ddelweddau ar gefndir o sidan asur a cheir y cyswyneiriau 'Y gwir yn erbyn y byd'; 'Yn Wyneb Haul Llygad Goleuni'; a 'Heddwch' arni mewn aur. Miss Lena Evans (Brodes Dâr) a'i brodiodd ac fe'i noddwyd gan Syr Arthur Stepney, Llanelli.

Erbyn hyn mae'r faner wreiddiol wedi'i hadnewyddu sawl tro ond erys yn ffyddlon i'r cynllun hwn.

Y Corn Hirlas

Y Corn Hirlas
Y Corn Hirlas, o waith W. Goscombe John. Fe'i gwnaed ar gais Arglwydd Tredegar i'w gyflwyno i'r Archdderwydd Hwfa Môn yng Nghaerdydd yn 1899.

Symbol yw'r Corn Hirlas o'r gwin a estynnir i groesawu'r Orsedd gan Fam y Fro lle cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol. Derbynnir enwebiadau ar gyfer y swydd ac fe'i dewisir gan banel o orseddogion.

Does dim sicrwydd pryd y dechreuwyd cyflwyno Corn Hirlas ond crybwyllir un yng Nghonwy (Cadair Gwynedd) yn 1861. Yna, ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, datganodd Arglwydd Tredegar (Ifor Hael yr Ail) ei fod yn bwriadu rhoi Corn Hirlas o waith y cynllunydd a'r cerflunydd o Gaerdydd, W. Goscombe John yn rhodd i'r Orsedd. Yn ôl yr artist talodd yr Arglwydd £359 iddo am ei lafur a'i ddefnyddiau. Yr oedd y Corn Hirlas yn barod i'w gyflwyno i'r Archdderwydd Hwfa Môn yng Nghaerdydd yn1899. Fe'i disgrifir fel corn ych (o Dde'r Affrig) wedi'i osod mewn arian yn gorwedd ar ddraig arian enfawr, gydag un grafanc yn dal pêl risial fawr. Yr oedd arfbais teulu Tredegar arno.

Cai'r Corn Hirlas ei gario ar elor yng ngorymdeithiau'r Orsedd yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Yn 1923 cynlluniodd Arlunydd Pen-y-garn glogyn coch hardd ar gyfer y gyflwynwraig a rhoddwyd penwisg o lês aur gan Oswyn Afan.

Yn y cyfnod cynnar boneddigesau fel Alicia Needham o'r Iwerddon, Ardalyddes Môn neu Faeres tref yr Eisteddfod gâi'u dewis yn gyflwynwyr. Wrth ddiwygio'r seremonïau yn y tridegau a gweithredu'r newidiadau hyn yn y pumdegau galwodd Cynan am ddewis 'un o Famau'r Fro' ar gyfer y swydd.

Esblygiad Gwisg yr Orsedd

Lerpwl, 1884 - dylanwad Cymdeithasau Cyfeillgar ar wisg yr Orsedd
Lerpwl, 1884 - y gorseddogion mewn ffedogau a sasys fel rhai'r Cymdeithasau Cyfeillgar. Yn y canol mae: Hwfa Môn a Clwydfardd.

Perthyn i'r Orsedd dair Urdd: Urdd Ofydd (gwisg werdd), Urdd Bardd (gwisg las), ac Urdd Derwydd (gwisg wen). Gwisga rhai o aelodau Urdd Derwydd lawryfon o ddail derw i arwyddo'u bod wedi ennill naill ai'r Goron neu'r Gadair genedlaethol ac y mae rhai o swyddogion yr Urdd mewn gynau lliw hufen i nodi'u bod â chyfrifoldebau neilltuol yng Ngorsedd.

Mae'r gwisgoedd hyn yn wahanol iawn i wisgoedd Gorsedd gyntaf Iolo Morganwg yn 1792, lle disgwylid i'r beirdd ymddangos yn droednoeth a phennoeth yng Nghylch yr Orsedd. Trwy glymu ysnodenni lliw gwyn, glas neu wyrdd am eu breichiau yr oedd Iolo yn dynodi eu bod wedi'u hurddo yn Feirdd. Dyna fu'r drefn tan tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yna, yn 1858, yn Llangollen gwisgai Beirdd yr Orsedd urddwisgoedd trilliw â chennin a thywysennau ŷd arnynt a charient wialenni wrth orymdeithio. Yn sicr y ddau fardd hynotaf eu gwisg oedd yr egsentrig Myfyr Morganwg yn cario ŵy cyfriniol y Derwyddon yn hongian am ei wddf a'r Dr William Price, Llantrisant, yn ei benwisg cadno.

Yng Ngorsedd yr Wyddgrug, 1873, ymddangosodd y Gorseddogion yn urddwisgoedd eu hamryfal Gymdeithasau Cyfeillgar, a oedd yn boblogaidd iawn yn y cyfnod hwn. Yn Lerpwl, 1884, roedd y prif Orseddogion mewn ffedogau a sashis o sidan glas golau â'r Nod Cyfrin arnynt.

Yn y darluniau o Orseddau Caernarfon, 1894 a Llandudno 1896 gwelir fod y gwisgoedd yn araf esblygu, gyda'r beirdd mewn gynau gorseddol a beretau duon â'r Nod Cyfrin arnynt. Het, tebyg i feitr neu het esgob, â'r Nod Cyfrin arni oedd gan yr Archdderwydd.

Gwella steil yr Orsedd

Braslun o wisg a phenwisg newydd yr Orsedd gan T.H.Thomas
Braslun o wisg a phenwisg newydd yr Orsedd yn llawysgrifau T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, c.1895.

Yn ystod yr 1890au, penderfynodd dau artist dylanwadol - yr Arwyddfardd, Arlunydd Pen-y-garn a'r Athro Hubert Herkomer - bod angen gwella ar wisgoedd yr Orsedd. Eu nod oedd eu hail-gynllunio ar batrwm Celtaidd.

Brodor o Bafaria oedd Herkomer (1849-1914) a bu'n Athro Slade Celfyddyd Gain Rhydychen ac, wedi 1890, yn Gymrawd yr Academi Frenhinol. Ei gyswllt pennaf â Chymru oedd trwy ei ail wraig, Lulu Griffiths, Stanley House, Rhuthun, ac ar ei marwolaeth priododd ei chwaer, Edith. Roedd Herkomer yn athrylith creadigol - yn of, paentiwr, ysgythrwr, pensaer, golygydd, dramodydd ac actor.

Dyma sut y disgrifiodd e'r urddwisg a ddyluniodd:

The foundation of the robe is of ordinary smock shape with sleeves and buttoning behind the neck. Upon the smock are placed hanging draperies three upon each side falling from the shoulders. One hangs in a loop around the sleeves, the two others are free, one long one to hang behind and a shorter one in front. ... This gathering of folds should be finished by the wearing of a Celtic brooch on either or both sides. An important portion of the costume is the hood which contains a small cap from which it falls covering the neck.

Ac wedi iddo gwblhau'r gwaith, meddai 'To me it has been a special pleasure to contribute towards the safety of the Gorsedd's future picturesqueness.' Gwariodd yr Ardalydd Bute, Arglwydd Mostyn a Syr Watkin Williams Wynne yn hael ar yr urddwisgoedd newydd hyn.

Erbyn 1917, fodd bynnag, roedd y gwisgoedd wedi dirywio'n enbyd, fel y disgrifiodd Winfred Coombe-Tennant, Mam o Nedd:

'Rhyfeddol oedd gorymdaith y Beirdd yr adeg honno! Gwisgoedd rhai wedi torri, a heb fod yn lân, neu'n cyrraedd ychydig yn is na'r penglin; eraill yn cael eu cadw oddi ar y llawr trwy gymorth safetypins.'

Yn y pendraw sefydlwyd Pwyllgor Gwisgoedd yr Orsedd gan y Beili Glas (D. Rhys Phillips) gyda'r Arglwyddesau Mostyn, Hughes-Hunter a Howard-Stepney, Angela Stepney-Gulston, Awen Mona, Mam o Nedd ac eraill arno. Adnewyddwyd y gwisgoedd yn rheolaidd ers hynny.

Yng Nghasnewydd 1988, wedi cystadleuaeth ymysg myfyrwyr Coleg Celf Dyfed, darparwyd clogyn porffor tywyll a'i addurno ag aur, o gynllun a gwaith Jennie Anthony, i arwisgo'r bardd (a'r llenor) buddugol ar lwyfan y Brifwyl. Mae gan aelodau eraill o basiantri'r Orsedd eu hurddwisgoedd pwrpasol hefyd; e.e. Cludwyr y Faner; Swyddogion y Llys, a'r pibyddion.

Gwisg yr Archdderwydd

Yr Archdderwydd Brinli (1972-75); Brinley Richards.
Yr Archdderwydd Brinli (1972-75); Brinley Richards.

Pan urddir Archdderwydd newydd caiff ei arwisgo â theyrnwialen, coron, dwyfronneg a modrwy ei swydd.

Het ar ffurf meitr esgob ag arni'r Nod Cyfrin oedd gan yr Archdderwydd cyntaf, Clwydfardd yng Nghaernarfon yn 1894, ond nid oedd y penwisg hwn yn gymeradwy gan Arlunydd Pen-y-garn, yr Arwyddfardd newydd a'r cynllunydd yr Athro Hubert Herkomer. Meddai Herkomer :

'I am at work upon the entire costume for the Arch Druid; making the whole of the ornaments, Breastplate ... and Tiara with oakleaves - all, with the exception of the oakleaves of pure, solid gold. W. Mansel Lewis and I present it to the Gorsedd, bearing all expense together.'

Ar gyfer y cynlluniau hyn ymchwiliodd Herkomer i engrafiadau cynnar o 'Archdderwyddon' mytholegol; yn eu plith ddarlun yn Mona Antiqua Restaurata, Henry Rowlands, 1723. Yr oedd yr urddwisg, y Goron a'r Ddwyfronneg yn barod erbyn Gŵyl Gyhoeddi Casnewydd 1896 ac ymfalchïai Herkomer yn y gwaith:

'Fortunately the love of the picturesque has not been eradicated from man's nature. ... for an arch druid to be wrongly dressed, that is too dreadful to contemplate. I am happy to think that such a calamity has been, for all times, averted. The Gorsedd with its chief must above all be distinctive in its outer appearance as well as in its inner spiritual being.'

Dyfed oedd yr Archdderwydd cyntaf i wisgo stola ag arni lygad haul a phelydrau, draig goch rampant a cholomen, yn 1911. Yng Ngorsedd Bae Colwyn, 1910 cyflwynodd y Parch. C.E.Wright, ficer Bexley yng Nghaint, deyrnwialen a ddyluniwyd gan Arlunydd Pen-y-garn ac o waith y Meistri Spencer and Co., Llundain i'r Archdderwydd. Yna, yn Wrecsam, 1912, rhoddodd Mrs Laurence Brodrick (Gwendolen), Abergele, dlws addurnol (pendant) i'w wisgo gan yr Archdderwydd. Cafwyd modrwy â sêl wedi'i chynllunio gan Douglas Williams, athro Celf y Coleg Normal, Bangor trwy garedigrwydd y Prifathro H. Humphreys-Jones, Lerpwl.

Y ddau hanner cleddyf

Hanner Cymru o'r ddau hanner cleddyf - gorseddau Cymru a Llydaw.
Hanner Cymru o'r ddau hanner cleddyf - gorseddau Cymru a Llydaw.

Seremoni rhwng cynrychiolwyr o Lydaw a Chymru oedd hon. Mae defod priodi'r ddau hanner cleddyf yn deillio yn ôl i Eisteddfod y Fenni yn 1838. Mewn cinio yno cafwyd anerchiad gan arweinydd carfan o Lydawyr - yr Is-Iarll Theódore Hersart de la Villemarqué (Kervarker) a ddisgrifiodd frwydr Sant Kast, pan wrthododd y Llydawyr ymladd gyda Ffrancwyr a'r Cymry ag ymladd gyda'r Saeson. Yn hytrach, bu iddynt gofleidio mewn heddwch. Yn y cinio hefyd darllenwyd cerdd gan y bardd Lamartine sy'n crybwyll arfer y Cymry a'r Llydawyr o uno dau hanner cleddyf ynghyd fel symbol o heddwch a brawdgarwch. Bu hyn yn symbyliad i greu defod uno'r ddau hanner cleddyf.

Yn raddol cyflwynwyd y ddefod ar sail cynllun yr Arwyddfardd, Arlunydd Pen-y-garn i'r Eisteddfodau Cenedlaethol ac wedi sefydlu Gorsedd Llydaw yn 1900 datblygodd yn symbol o undod dwy orsedd. Yng Nghaerfyrddin yn 1911 y gwelwyd y seremoni o fewn Cylch yr Orsedd am y tro cyntaf. Yr oedd yn ddefod boblogaidd hefyd pan deithiai Gorseddogion o Gymru draw i Lydaw. Câi ei chynnal yn achlysurol gydol yr ugeinfed ganrif er nad oedd y berthynas rhwng y Gorseddau bob amser yn ddedwydd. Gwelwyd y ddefod ddiwethaf ym Machynlleth yn 1981.

Y Flodeuged

Y Ddawns Flodau
Y Ddawns Flodau

Tusw neu ysgub o flodau'r maes, ŷd a gweiriau yn symbol o dir a daear Cymru ac a gyflwynir gan forwyn ifanc o fro'r Eisteddfod i'r Archdderwydd yn sermonïau'r Orsedd yw'r Flodeuged. Mae'n symbol o ddymuniad ieuenctyd Cymru i gynnig blagur eu doniau i'r Eisteddfod Genedlaethol. Derbynnir enwebiadau ar gyfer bod yn gyflwynwraig ac fe'i dewisir gan banel o Orseddogion.

Does dim sicrwydd pryd y dechreuwyd cynnwys y ddefod hon ond ddechrau'r ugeinfed ganrif cyflwyno'r Aberthged oedd yr ymadrodd a ddefnyddid. Yn ystod y cyfnod cynnar hwn dewisid menywod a gwragedd dynion adnabyddus yn Gyflwynwyr e.e. Mrs Tom Ellis (Cyhoeddi Caernarfon 1905) ac Olwen Lloyd George (Caerfyrddin 1911).

Yn 1923 y cafodd y clogyn coch Celtaidd a gynlluniwyd gan Arlunydd Pen-y-garn ei ddefnyddio gyntaf . Rhoddwyd penwisg aur gan Oswyn Afan. Aeth Cynan ati yn y tridegau/pumdegau i fireinio'r seremoni trwy gyflwyno'r Ddawns Flodau a'i chyplysu â'r Aberthged. Tua'r flwyddyn 1972, gan nad oedd y term 'Aberthged' yn gymeradwy bellach, mabwysiadwyd y teitl 'Cyflwyno'r Flodeuged'.

Dyddiad yr erthygl: 25 Gorffennaf 2010

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar