Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Tafodiaith Llangynwyd, Canol Morgannwg

Tafodiaith Llangynwyd, Canol Morgannwg

Nodweddion cyffredinol

cofio iwso maen carrag
cofio iwso maen carrag

Er bod rhai miloedd o Gymry Cymraeg yn byw yn y De-ddwyrain heddiw, prin iawn yw'r sawl a glywodd y dafodiaith wreiddiol; prinnach fyth yw'r rhai sydd yn ei siarad. Mae iaith Richard Griffith Thomas yn amlygu nodweddion mwyaf trawiadol y Wenhwyseg:

  • æ sydd mewn geiriau fel græ t 'grât', Næ d 'nhad', sæ r.
  • a a geir yn y sillaf olaf yn, e.e. pynthag 'pymtheg', dychra 'dechrau', gatal 'gadael'.
  • Mae Calediad yn gyson, e.e. acor 'agor', doti 'dodi', lliti 'lludw', wetyn 'wedyn'. Nodwedd ar dafodiaith yr ardal hon yw na cheir Calediad yn odw 'ydwyf'.
  • Collir h yn eddi 'heddiw' ond fe'i ceir yn barra harn 'barrau haeam' am fod pwyslais ar harn.
  • Terfyniad trydydd person unigol gorffennol y ferf yw ws, e.e. mynnws 'mynnodd'.
Er bod yr acen mor hynod, nodweddiadol ddeheuol yw'r rhan fwyaf o'r geiriau yn y darn hwn, e.e. ffwrn, cwmpo 'cwympo', a mam-gu. Gair sydd yn hynodi'r De-ddwyrain yw glowty.

Y recordiad

Odd yr 'en ffwrn crasu bara yn y wal yn y manna. Ma 'i... Ma 'i 'na 'eddi, dim on' bo'r y... brics a'r... y græ ts newydd 'ma wedi gaead a miwn. Wi'n cofio bod jyst y miwn yn y ffw... yr 'en ffwrn! Odw, achos wi'n cofio odd yr arch wedi... yn tu fiwn w' dychra cwmpo. A beth fynnws Næ d odd mynnyd sæ r y Llan. Odd y sæ r, odd a'n neud y... gwaith sæ r a gwaith meiswn. On' beth nath e odd nid acor, gwitho odd' 'ma, on' acor twll o'r glowty 'rochor yco miwn i'r ffwrn. A llanw'r ffwrn o liti a doti'r brics yn ôl yn y top mwn morta' sment. A gatal nw sefyll wthnos. A wetyn, Næ d a jobyn wetyn, tynnu'r Iliti mæ s, a ma'r 'en ffwrn yn sefyll byth ag wn i. Er nag os dim crasu bara w' bod yndi es pynthag, pynthag, ddeunaw mlynadd.

O, fi welas yn rai ffermydd abothu 'ma... y... on nw'n cæ l tripat. Wel, pishyn... barra harn odd a, ag odd dou o nw, dou yn dod mæ s 'ma, yn 'itsho'n y bar top man 'yn, ag odd y rest myn' t'ag yn ôI, drws y tæ n. Ag oech chi'n gallu doti citl ne grochon ar ben y tæ n ar... i sefyll arno fa. Odd 'wnnw'n rwpath odd wedi dod o'r 'en amsar pan odd y tshaen. /Ife?/ Dim on' shwrna 'riôd gwelas i'r tshaen, y tshaen a'r bechyn. Yn...mwn tŷ fferm yn y Bitws. Ond y tro dwedda own i 'no, pan odd y ffermwr sy 'no 'eddi'n myn' 'no, odd a'n altro'r cyfan. Odd a'n caead yr 'en bart 'ny fynydd, ag yn neud gecin newydd i'r modern fashion.

A 'na odd pwrpas arall i'r tripat wetyn odd i ddoti'r mæ n 'arn i grasu y... ffroes a pics crynon arno fa. Welsh cakes ys gwetson nw 'eddi. /Ie, ie, ie./ Wi'n... oen nw'n gwe' 'thdo i, odd Næ d a Mam yn gwed bo' nw'n colIo iwso mæ n carrag. Oen, oen. Mæ n carrag. On' 'na beth odd gen Mam yma, a'r un peth odd gen Mam-gu yn Llest Wen, mæ n 'arn odd genti.

On' odd ych tad yn cofio un... un carreg?

Odd, odd.

Yma?

Un carrag, odd.

Pwy garreg byse honno?

Wel, os gen i'm cof... welas i mo 'i, on' i glŵas a'n gwed am... bod, bod y mæ n carrag wedi bod yn cæ l iwso. Achos ishtag odd ar yr 'en ffwrn bara yn y manna, plæ t carrag odd i 'onno. Wel, y... gwelas i mog e, on' wi'n cofio Næ d yn mynnyd plæ t 'arn. A wi'n gofio fa achos bod a'n... yn ddueddol o gwmpo, myn' ag e a cæ l y gof i [ddo] ti dolan iddo fa, a shelff ar 'i waelod a. 'Sa'n cwnnu lan, a [do] ti fa'n erbyn y ff... gwddwg ffwrn, odd a'n sefyll 'i 'unan wetyn.

Nodiadau

cofio iwso maen carrag
cofio iwso maen carrag

ffwrn
Gair deheuol y mae ei diriogaeth yn cynnwys de'r Canolbarth; popty yw'r term gogleddol. Cofnodwyd ffwrn yn ardal Bangor yn golygu 'ffwrnes' ac mae'n ddigon posibl, felly, fod cylchrediad ehangach i'r gair ar un adeg gyda'r ystyr honno ond iddo gael ei ddisodli yn y Gogledd gan ffwrnes.

crasu
Gair y mae ei ystyr yn gorymylu ar eiddo pobi ac y bydd yr union beth y cyfeiria ato yn amrywio o fan i fan. Yn Llangynwyd byddir yn crasu tishan a bara ond yn popi cig (yn y ffwrn) a chaws (o flaen y tân). Ymhellach i'r gorllewin, nid crasu bara y byddir, ond ei bobi.

Mewn rhannau o Feirionnydd, at yr holl broses o wneud y bara y mae pobi yn cyfeirio, ond yn y Gogledd-orllewin a'r De-orllewin (a rhannau o Feirion hefyd), dylino'r toes yn unig a olygir. (Am fanylion Ilawnach, gweler S Minwel Tibbott, Geirfa'r Gegin.)

w dychra 'wedi dechrau'
Y ffurf 'wan' arferol drwy Gymru ar wedi yw 'di, e.e. Wi 'di gofyn. Yn ne-ddwyrain Morgannwg, fel y tystia'r enghraifft hon, gall w hefyd fod yn ffurf wan.

cwmpo 'syrthio'
Gair y mae ei ddosbarthiad daearyddol yn debyg i eiddo 'ffwrn'.

mynnyd 'mynnu'
Ceir '-yd' yn derfyniad berfenwol yn yr iaith safonol mewn geiriau fel 'cymryd' a 'dywedyd' ond cymharol brin ydyw yn y ffurf honno ar yr iaith. Ar lafar y mae -yd yn fwy cyffredin a gall ddigwydd - yn arbennig mewn tafodieithoedd deheuol - yn lle'r terfyniad safonol neu pan fydd y ffurf safonol yn ddiderfyniad. Fe'i ceir hefyd mewn ffurfiau benthyg. Enghreifftiau yw:

Deheuol:

  • cwrddyd 'cyfarfod'
  • (e) drychyd 'edrych'
  • gafaelyd 'gafael'
  • gofnyd 'gofyn'
  • mwfyd 'move'
  • stopyd 'stop'

Gogleddol:

  • dengyd 'dihengyd, dianc'
  • denyd 'denu'

glowty 'beudy'

lliti 'lludw'
Ffurf gyffredin drwy'r De yw llidi; y mae ffurf yr ardal hon yn cynnwys Calediad.

fi welas
Enghraifft o'r rhagenw yn dod o flaen y ferf, patrwm a gysylltir â'r De-ddwyrain er nad yw mor gyffredin ag y tybir gan rai. Fel y tystia Richard Griffith Thomas, nid dyma'r unig batrwm sydd yn bosibl yn y rhan hon o'r wlad.

abothu 'o gwmpas'

tripat 'trybedd'

citl
Er mai o'r Saesneg kettle y benthyciwyd y gair hwn nid tegell ond sosban fawr ar gyfer berwi d.'r ydyw. Math arbennig o kettle oedd y tea-kettle, a'r gair hwn a roes inni ein tegell.

crochon 'crochan'
Ceir y ffurf hon yn lled gyffredin. Cedwir y llafariad wreiddiol yn y ffurf luosog, crochana.

shwrna 'unwaith'

Y Bitws 'Y Betws'
Nodwedd ar iaith yr ardal yw tuedd i droi e yn i yn y goben pan geir i neu w yn y sillaf olaf; enghreifftiau eraill yw dirw 'derw', ciffyl 'ceffyl'.

fynydd 'i fyny'
Wrth lunio berfau yn unig y ceir (i) fynydd yn y De, mewn ymadroddion fel rhoi fynydd 'rhoi'r gorau'. Ar gyfer cyfleu'r cyfeiriad (sef y gwrthwyneb i i lawr), (i) lan a ddywedir.

mæ n 'maen (ar gyfer crasu bwyd ar y tân)'
Gair nodweddiadol o'r De-ddwyrain. Yr enwau cyffredin eraill yw gradall neu gradell yn y Gogledd hyd at afon Aeron, planc yn y De-orllewin, a llechwan yng ngogledd-ddwyrain Morgannwg a rhannau o Frycheiniog.

ffroes 'crempog'
Enwau eraill am y bwyd hwn a gofnodir gan S Minwel Tibbott yn Geirfa 'r Gegin yw cramoth (de sir Gaerfyrddin a rhannau o Forgannwg), pancos (siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi), pancocs (Penfro), poncage (Ceredigion), poncacs (Brycheiniog a gogledd Ceredigion), ponca (Maldwyn), a crempog (Gwynedd).

pics crynon
Mae'r teisennau bach hyn yn nodweddiadol Gymreig a cheir llu o enwau arnynt. Y rhai amlaf eu digwydd yw pics yn y gorllewin a tishan grwn yn y dwyrain. Y mae pics crynon yn cynnwys enw'r gorllewin ac ansoddair y dwyrain. Enwau eraill yw pice bach (siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, a Gorllewin Morgannwg), a pice ar y maen (de sir Gaerfyrddin a Gorllewin Morgannwg). Cyffelyb yw ansawdd cacen gri y Gogledd (gweler S Minwel Tibbott, Geirfa'r Gegin).

genti 'ganddi'

i glwas 'clywais'.

ishta 'fel'
Ffurf ar yr un sut â . Fe'i clywir mewn ymadroddion fel (neu ishta!) odd a'n tampo ishta cilog 'eb ddim pen, ma fe ishta llyngyren o dene.

yn ddueddol 'yn dueddol'
Dueddol yn hytrach na tueddol yw ffurf gysefin yr ansoddair hwn yn llafar Richard Griffith Thomas.

cwnnu 'codi'

Dyddiad yr erthygl: 17 Mai 2010

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar