Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Cwis

Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Cwis: Fframiau haearn ac olwynion pren - Casgliad beiciau Amgueddfa Cymru


O feiciau penny farthing i feiciau pen ffordd a thandemau, mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn gartref i'r casgliad gorau o feiciau yng Nghymru.
Dyma gwestiynau ynglŷn â'r erthygl 'Fframiau haearn ac olwynion pren - Casgliad beiciau Amgueddfa Cymru'. Cliciwch nesaf i barhau...

C1. Mae'n hawdd adnabod beiciau penny farthing gan fod ganddynt un olwyn anferth ar y blaen ac un fach iawn ar y cefn - beth oedd yr enw gwreiddiol amdanynt yn Saesneg?

 1. Upper Usuals

 2. High Ordinaries

 3. Tall Regulars

 4. Elevated Normals


C2. Beth yw enw'r beic cynharaf yn y casgliad, sy'n dyddio yn ôl i tua 1865?

 1. Ceffyl Pren

 2. Asyn Copr

 3. Ebol Dur

 4. March Haearn


C3. Pryd cynhaliwyd ras feiciau'r Tour of Britain am y tro cyntaf?

 1. 1931

 2. 1941

 3. 1951

 4. 1961


Da iawn! Cliciwch 'nesaf' i weld eich canlyniadau...