Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Ieithoedd o Gymru

[delwedd: ]

Y Wal Ieithoedd yn Oriel 1, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae gan Gymru sawl llais

Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cymru, ond mae nifer o ieithoedd eraill yn cael eu siarad yma hefyd. Fel dwy ran o dair o boblogaeth y byd, mae llawer o bobl yng Nghymru yn siarad mwy nag un iaith.

Mae’n anodd cael hyd i ystadegau am ieithoedd ar wahân i Gymraeg a Saesneg, gan nad oes cwestiwn amdanynt yn y cyfrifiad. Yn 2006, fe gasglodd Amgueddfa Cymru enwau 78 o ieithoedd gan bobl oedd yn siarad yr ieithoedd hynny ac yn byw yng Nghymru. Dangosodd arolwg gan CILT Cymru fod o leiaf 98 o ieithoedd yn cael eu siarad gan blant ysgol yn y wlad hon.

Yn groes i’r disgwyl efallai, clywid nifer o wahanol ieithoedd yng Nghymru yn yr oesoedd canol hefyd. Fe’u siaredid gan oresgynwyr, gweithwyr o dramor neu bobl a chanddynt gysylltiad tymor-hir trwy fasnach.

Helpwch ni i ddarganfod mwy am leisiau Cymru. Os ydych chi’n byw yng Nghymru, ac yn methu gweld eich cymuned iaith chi yma, rhowch wybod inni amdani.

[delwedd: Saesneg]

Saesneg

Saesneg

Saesneg yw unig iaith y mwyafrif o bobl yng Nghymru. Nid felly y bu erioed.

Bedair canrif yn ôl, dim ond 7 miliwn o bobl oedd yn siarad Saesneg, ac nid oedd llawer o sôn am yr iaith y tu allan i Ynysoedd Prydain. Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o Gymru, ar wahân i ambell i ardal a anheddwyd gan y Normaniaid,  fel De Penfro a Bro Gwyr. Clywid y Gymraeg dros y ffin yn Lloegr, hyd yn oed, yn swydd Henffordd a rhannau o sir Fynwy.

Rhwng teyrnasiad Elisabeth I (1603) ac Elisabeth II (1952), tyfodd y nifer o siaradwyr Saesneg i 250 miliwn. Ac ers y 1950au, bu cyflymdra a maint y cynnydd hyd yn oed yn fwy syfrdanol. Erbyn hyn, mae tua chwarter poblogaeth y byd yn medru rhywfaint o Saesneg, ac mae'r nifer yn dal i dyfu.

Er mai Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf i ddioddef oherwydd lledaeniad yr iaith Saesneg, ni Seisnigwyd y wlad dros nos. Mae gan bob rhan o Gymru stori wahanol i'w dweud o safbwynt y Saesneg, ac fe adlewyrchir hyn yn yr acen neu'r dafodiaith Saesneg leol. Seisnigwyd rhai ardaloedd (megis De Penfro) ganrifoedd lawer yn ôl, tra bod ardaloedd megis y de-ddwyrain diwydiannol wedi troi i'r Saesneg yn gymharol ddiweddar. Mewn sawl rhan o Gymru, ail iaith yw'r Saesneg gan fod y Gymraeg yn dal i fod yn iaith feunyddiol i'r trigolion. Gellir clywed dylanwad ardaloedd Saesneg cyfagos, megis Cernyw neu swydd Henffordd, ar acenion Saesneg rhai Cymry. Yn iaith eraill, mae geirfa a phatrymau'r Gymraeg  i'w clywed yn y Saesneg o hyd.

Gwrandewch ar Ray Smith sy'n hanu o Sir Faesyfed. Mae ei acen yn wahanol iawn i'r darlun arferol o acen Gymreig, er ei bod mor Gymreig ag acen unrhyw ran arall o Gymru.

» View full details for ‘Saesneg’

[delwedd: Somalieg]

Somalieg

Mae pobl Somali yn byw yng Nghaerdydd ers y 1870au. Gan y ddinas hon mae un o’r cymunedau Somali mwyaf hirsefydlog yn y DU. Morwyr oedd y rhai cyntaf i ymsefydlu yma. Daethant yma’n fuan wedi agor Camlas Sŵes ym 1869, pan oedd Caerdydd yn datblygu’n borthladd rhyngwladol o bwys. Yn ystod y 1980au cyrhaeddodd ton arall o fewnfudwyr o Somalia, ar ffo rhag y rhyfel cartref ym Mhenrhyn Somalia. Amcangyfrifir bod dros 8000 o Somaliaid yn byw yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe a’r ardaloedd cyfagos ar hyn o bryd. Dyma’r gymuned ethnig leiafrifol fwyaf yng Nghymru felly.

Mae rhyw 10-15 miliwn yn siarad Somalieg trwy’r byd i gyd. Mae hon yn iaith ag iddi draddodiad hir a chyfoethog o farddoniaeth a llenyddiaeth. Serch hynny, dim ond ym 1972 y daeth y Somalieg yn iaith swyddogol Somalia, a disodli’r ieithoedd trefedigaethol, Saesneg ac Eidaleg, ym maes llywodraeth ac addysg.

Grandewch ar Faisal Mohamed Hashi yn sôn am ei gefndir Somalieg ei iaith yng Nghasnewydd, Gwent. Morwr oedd ei dad a ddaeth i Gymru gyda Llynges Fasnachol Prydain.

» View full details for ‘Somalieg’

[delwedd: Pwnjabeg]

Pwnjabeg

Mae tua 93 miliwn o bobl yn siarad Pwnjabeg. Cartre gwreiddiol yr iaith oedd ardal y Pwnjab, a rannwyd rhwng India a Phacistan wedi annibynniaeth ym 1947. Triga tua 70 y cant o siaradwyr Pwnjabeg yn Pacistan, a 30 y cant yn India. Mwslemiaid yw’r mwyafrif o siaradwyr Pwnjabeg Pacistan a defnyddiant yr iaith Urdu ar gyfer crefydd a diwylliant aruchel. Hindi yw iaith crefydd y Pwnjabiaid sy’n dilyn y grefydd Hindw. I’r Sikhiaid, fodd bynnag, Pwnjabeg yw prif iaith eu hysgrythur sanctaidd, y Guru Granth Sahib.

Daeth nifer o Bwnjabiaid i’r Deyrnas Unedig yn y cyfnod rhwng diwedd y 1950au a dechrau’r 1970au. Fe ymgartrefodd y mwyafrif ohonynt o gwmpas Llundain, Canolbarth Lloegr a threfi tecstilau gogledd Lloegr. Fodd bynnag, nid o India a Phacistan yn unig y daethant. Roedd llawer ohonynt yn ddynion busnes a phobl broffesiynol o Ddwyrain Affrica, lle’r oedd Pwnjabiaid wedi mudo fel masnachwyr yn gynharach yn yr ugeinfed ganrif.

Yng Nghymru, gwyddom fod siaradwyr Pwnjabi wedi eu cofnodi mewn ysgolion yn sir Gaerfyrddin, sir Ddinbych, Caerdydd, sir y Fflint, Merthyr Tudful, Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot a Thorfaen. Gwrandewch ar Swinder Chadha, a fagwyd yn Delhi ond a ddaeth i Gymru o Iran yn ystod yr 1980au. Mae'r Sikhiaid sy'n addoli yn ei Gurdwara lleol yng Nghaerdydd wedi dod i Gymru o bedwar ban byd - o Ddwyrain Affrica, Byrma, Singapôr ac Iran nid yn unig yn uniongyrchol o'r Pwnjab.

» View full details for ‘Pwnjabeg’

[delwedd: Maleieg]

Maleieg

Iaith a siaredir gan bobl sy’n byw ar benrhyn Maleia, deheubarth Gwlad Tai, Ynysoedd y Philipinos, Singapôr, canolbarth dwyrain Swmatra a rhannau o arfordir Borneo yw’r Faleieg  (Bahasa Melayu). Mae’n iaith swyddogol ym Maleisia, Brwnei a Singapôr. Mae rhyw 18 miliwn yn siarad Maleieg Safonol, ond mae yna hefyd tua 170 miliwn o bobl sy’n siarad Indoneseg, sy’n ffurf ar y Faleieg. Gwyddom am siaradwyr Maleieg mewn ysgolion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

 

Gwrandewch ar Juliet Revell a aned ar ynys Java yn Indonesia ond symudodd ym 1988 i fyw yn Hwlffordd, sir Benfro gyda'i gwr Gareth. Ers hynny, ychwanegodd y Gymraeg at y nifer helaeth o ieithoedd mae'n medru eu siarad, ac mae ganddi ei cholofn ei hun ym mhapur bro Cymraeg ardal Abergwaun, Y Llien Gwyn.

» View full details for ‘Maleieg’

[delwedd: Llydaweg]

Llydaweg

Iaith Geltaidd yw’r Llydaweg ac mae’n perthyn yn agos i’r Gernyweg a’r Gymraeg, er na fyddai siaradwr Cymraeg yn gallu deall siaradwr Llydaweg. Mae rhyw 365,000 o siaradwyr Llydaweg, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn byw yn Llydaw, ar arfordir gogledd-orllewinol Ffrainc. Nid oes statws swyddogol i’r iaith.  Rhwng 1880 a 1951 gwaherddid yr iaith yn yr ysgolion ac roedd plant yn cael eu cosbi am siarad Llydaweg. Er 1951, mae’r gyfraith wedi caniatáu dysgu iaith a diwylliant Llydaw am ychydig oriau’r wythnos. Mae yna hefyd ambell i ddarllediad radio yn y Llydaweg ac awr o raglen deledu yr wythnos.

 

Gwrandewch ar Pascal Lafargue sy'n hanu'n wreiddiol o Rennes yn Llydaw. Gan nad oes Llydaweg i'w chlywed yn Rennes bellach, fe ddysgodd Pascal ei hun sut i siarad yr iaith ac fe aeth ymlaen i'w hastudio yn y Brifysgol. Ei fwriad oedd adennill ei dreftadaeth ddiwylliannol a gallu sgwrsio gyda'r siaradwyr Llydaweg sy'n dal i fyw yn ardaloedd gwledig Llydaw. Mae e bellach yn byw a gweithio yng Nghaerdydd, wedi dysgu Cymraeg, ac yn magu ei fab i fod yn Gymro Cymraeg.

» View full details for ‘Llydaweg’

[delwedd: Japaneg]

Japaneg

Mae rhyw 125 miliwn o bobl yn siarad Japaneg, a 99% ohonynt yn dal i fyw yn Japan. Serch hynny mae’r nifer o siaradwyr Japaneg sy’n byw dramor wedi cynyddu wrth i economi Japan ehangu, gyda phobl yn mynd i weithio i gwmnïau Japaneaidd neu’r llywodraeth. Mae yna ryw 50,000 o siaradwyr Japaneg yn y DU, gyda rhyw 2000 o’r rhain yn byw yng Nghymru. Cymru yw’r ganolfan fwyaf yn Ewrop i gwmnïau o Japan sy’n cynhyrchu nwyddau electronig Japaneaidd. Daeth y cwmni gweithgynhyrchu Japaneaidd cyntaf i Gymru ym 1973, ac yn ystod y 30 mlynedd diwethaf mae’r nifer wedi cynyddu i ryw 60 cwmni, sy’n cyflogi miloedd o bobl Cymru. Gwyddom am ddisgyblion sy’n siarad Japaneg mewn ysgolion yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Merthyr, Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot, Bro Morgannwg a Wrecsam.

 

Gwrandewch ar Midori Matsui a ddaeth i Gymru ym 1973 i weithio i gwmni o Siapan. Bu'n byw yma ers hynny. Bu ers blynyddoedd yn helpu gydag ysgol Sadwrn yng Nghaerdydd i blant pobl o Japan sy'n byw yng Nghymru.

» View full details for ‘Japaneg’

[delwedd: Iaith Arwyddion Prydain]

Iaith Arwyddion Prydain

Iaith Arwyddion Prydain (British Sign Language neu BSL) yw’r iaith a ddefnyddir gan gymuned Fyddar Prydain. Mae hon yn iaith yn ei hawl ei hun, yn hytrach na ffordd o siarad Cymraeg neu Saesneg trwy gyfrwng arwyddion. Amcangyfrifir bod rhyw 70,000 o bobl yn defnyddio BSL fel eu hiaith gyntaf, a bod hyd at 250,000 o bobl yn defnyddio peth BSL.

Mae ieithoedd arwyddion yn amrywio o wlad i wlad; mae iaith arwyddion Prydain yn wahanol i Iaith Arwyddion Ffrainc neu America, er enghraifft. Mae yna wahanol amrywiadau rhanbarthol neu dafodieithoedd, fel sydd mewn ieithoedd eraill. Mae gan BSL hanes a diwylliant hir, ond yn ystod rhan helaethaf yr 20fed ganrif cafodd ei gwahardd mewn ysgolion i blant Byddar. Gorfodwyd y disgyblion i siarad a darllen gwefusau yn lle hynny. Er gwaethaf hyn, goroesodd BSL ac er 2003 cafodd ei chydnabod yn swyddogol gan y Llywodraeth fel iaith annibynnol.

Ganed Jeff Brattan-Wilson yn Abertawe i rieni Byddar ac mae ef ei hun yn Fyddar hefyd. Edrychwch ar y fideo a darllenwch y trawsysgrif i ddarganfod beth sydd ganddo i'w ddweud am ei iaith gyntaf, sef Iaith Arwyddion Prydain.

» View full details for ‘Iaith Arwyddion Prydain’

[delwedd: Gwjarati]

Gwjarati

Mae Gwjarati yn un o bymtheg iaith swyddogol India ac yn iaith swyddogol talaith Gwjarat yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Amcangyfrifir bod 47 miliwn o bobl ledled y byd yn siarad yr iaith. Hon oedd iaith gyntaf Mahatma Gandhi ac mae iddi draddodiad llenyddol sy’n dyddio’n ôl i’r ddegfed ganrif. Mae yna lawer o siaradwyr Gwjarati yn y DU, gyda’r prif gymunedau yng Nghanolbarth Lloegr, trefi diwydiant defnydd gogledd Lloegr a Llundain Fwyaf. Daeth rhai yn syth o India yn y 1950au a’r 1960au, ond daeth llawer i’r DU trwy Ddwyrain Affrica, yn arbennig wedi i’r aelodau hynny o’r boblogaeth oedd yn hanu o Ddeheubarth Asia gael eu gyrru o Wganda ym 1972. Gwyddom bod disgyblion sy’n siarad Gwjarati mewn ysgolion yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin, Merthyr, Abertawe/Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg.

Gwrandewch ar Dinesh Patel yn siarad am ei gefndir ieithyddol tra diddorol. Fe'i ganed yng Nghenia a'i fagu i siarad Gujerati, HIndi a Swahili. Dysgodd Saesneg yn yr ysgol. Wedi graddio mewn prifysgol yn Lloegr yn nechrau'r 1970au, fe gafodd waith yng Nghaernarfon lle gwrddodd â merch leol a'i phriodi. Cymraeg yw iaith ei gartref bellach, ac fe glywir ôl iaith y Cofi yn gryf ar ei acen.

» View full details for ‘Gwjarati’

[delwedd: Ffrangeg]

Ffrangeg

Mae tua 128 miliwn o bobl ar draws y byd sy'n siarad Ffrangeg. Mae'n iaith swyddogol nid yn unig yn Ffrainc ond hefyd mewn 24 o wledydd eraill, er enghraifft y Swisdir a Chanada. Siaredir Ffrangeg ar Ynysoedd y Sianel, a cheir cymunedau Ffrangeg sylweddol o ran maint yn Llundain. O'r ieithoedd sy'n cael eu dysgu yn ysgolion Prydain, yr iaith Ffrangeg yw'r fwyaf cyffredin. Yng Nghymru, cofnodwyd bod disgyblion sy'n siarad Ffrangeg fel iaith gyntaf mewn ysgolion yng Nghaerdydd, sir Gaerfyrddin, Conwy/sir Ddinbych, sir y Fflint, Casnewydd, Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot, a Wrecsam.

Gwrandewch ar Sylvie Butterbach a aned yn ardal Alsace yn Ffrainc - rhanbarth a fu hefyd yn rhan o'r Almaen ar gyfnodau yn ei hanes. Daeth i Gymru fel 'assistante' Ffrangeg mewn ysgol yn y 1970au. Arhosodd a magu teulu yma. Mae'n byw nawr ym Mhontardawe ac mae'n gweithio fel cyfieithydd a storïwr.

» View full details for ‘Ffrangeg’

[delwedd: Cymraeg]

Cymraeg

Y Gymraeg oedd un o’r ieithoedd cyntaf i gael ei bygwth gan ledaeniad Saesneg ar draws y byd. Mae'n wyrth ei bod hi wedi goroesi o gwbwl. Dim ond un o bob pump o boblogaeth Cymru sy'n siarad yr iaith. Ar wahân i ambell i blentyn ifanc iawn, gall pawb sy'n siarad Cymraeg siarad Saesneg hefyd.

Ac eto, o safbwynt ieithoedd dan fygythiad, llwyddiant yw'r Gymraeg. Dangosodd cyfrifiad 2001 fod nifer a chanran y Cymry Cymraeg yn cynyddu am y tro cyntaf ers dros ganrif. Ym 1991 roedd 508,000 o bobl, neu 18.7% o'r boblogaeth, yn medru Cymraeg. Erbyn 2001, roedd y nifer wedi cynyddu i 582,000, sef 20.8% o'r boblogaeth.

Mae cyferbyniadau diddorol yn y data: nid yr ardaloedd sydd â'r canrannau uchaf o Gymry Cymraeg yw'r ardaloedd lle mae'r niferoedd uchaf yn byw. Mae mwy o Gymraeg i'w chlywed yn y gorllewin nag yn nwyrain Cymru. Yng Ngwynedd, mae cymaint â 69% o'r boblogaeth yn medru Cymraeg, ond 11% yn unig sy'n medru'r iaith yng Nghaerdydd. Ac eto mae mwy o Gymry Cymraeg yn byw yn y trefi a'r dinasoedd nag sydd yng nghefn gwlad, a mwy o siaradwyr Cymraeg yn y de nag sydd yn y gogledd. Tua 78,000 o Gymry Cymraeg sy'n byw yng Ngwynedd, er enghraifft, sy'n llai na'r nifer yn sir Gaerfyrddin lle mae 50% o'r boblogaeth yn unig yn medru Cymraeg. Tra bu cynnydd calonogol yng nghanran siaradwyr yr iaith mewn ardaloedd Seisnigedig fel Caerdydd, gostwng wnaeth nifer yr ardaloedd lle mae dros 80% o'r trigolion yn medru Cymraeg.

Y ffactorau mwyaf allweddol o safbwynt cynyddu'r nifer sy'n medru'r Gymraeg yw llwyddiant ysgolion Cymraeg a'r cynnydd yn nifer yr oedolion sy'n dysgu'r iaith. Dyma'r trydydd cyfrifiad i ddangos cynnydd yn y nifer o bobl ifainc sy'n medru'r iaith. Roedd 26% o'r boblogaeth dan 35 oed yn medru Cymraeg - 9% yn fwy nag oedd ym 1991.

Nid yng Nghymru yn unig mae pobl yn siarad Cymraeg. Yn ôl arolygon a gomisiynwyd gan S4C, mae dros 200,000 o bobl yn medru'r Gymraeg yn Lloegr.

Yn y Wladfa yn ardal Chubut ym Mhatagonia mae tua mil neu ragor o ddisgynyddion ymfudwyr o Gymru yn dal i fedru'r Gymraeg yn ogystal â Sbaeneg.

Gwrandewch ar Gwil Pritchard o Gaernarfon, Gwynedd yn sôn am ei gefndir ieithyddol a'r gwahaniaethau rhwng iaith Caernarfon a iaith Bangor.

» View full details for ‘Cymraeg’

[delwedd: Bengaleg]

Bengaleg

Mae tua 400,000 o siaradwyr Bengaleg yn y Deyrnas Unedig, a chyfanswm o 230 miliwn dros y byd i gyd. Siaredir yr iaith gan 100 miliwn o bobl ym Mangladesh a thros 70 miliwn yn India. Yng Nghymru, cofnodwyd bod disgyblion Bengaleg eu hiaith mewn ysgolion yng Nghaerdydd, sir Gaerfyrddin, Conwy/sir Ddinbych, Merthyr Tudful, Casnewydd, Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot, Torfaen, Bro Morgannwg a Wrecsam. Yn ddiweddar, mae Caerdydd wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer y gymuned Bangladeshi, sydd erbyn hyn gymaint â chwarter y boblogaeth Asiaidd yn y ddinas.

 

Pan ffurfiwyd Pacistan ym 1947, Urdu oedd yr unig iaith swyddogol serch y ffaith fod mwy o Fengaleg yn cael ei siarad yn nwyrain y wlad. Bu gwrthdystiadau ffyrnig a threisgar cyn i Fengaleg gael ei chydnabod fel iaith swyddogol. Daeth Dwyrain Pacistan yn wlad annibynnol ym 1971. Newidwyd ei henw i Fangladesh a gwnaed Bengaleg yn iaith swyddogol i’r wlad newydd.

 

Yn Sylhet, ardal yng ngogledd-orllewin Bangladesh, mae gwreiddiau y mwyafrif o bobl o dras Bangladeshi sy'n byw ym Mhrydain. Maent yn siarad Sylheti, sef tafodiaith sy’n wahanol iawn i Fengaleg safonol. Mae gan ardal Sylhet gysylltiadau hir iawn â’r Deyrnas Unedig oherwydd y fasnach de a jiwt. Mae’r gymuned Fengaleg ym Mhrydain yn dyddio’n ôl i’r 1870au, ond roedd uchafbwynt y mewnfudo yn yr 1960au a’r 1970au.

 

Gwrandewch ar Sirajul Islam yn sôn - yn Gymraeg - am ei gefndir ieithyddol a sut y bu rhaid iddo ddysgu Bengaleg safonol, Wrdw a Saesneg yn ogystal â Saesneg er mwyn dod ymlaen yn y byd. Daeth i Gymru o Fangladesh ym 1963. Wedi treulio blynyddoedd lawer yn rhedeg bwyty yn Abertawe, mae Islam bellach yn gwneud gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

» View full details for ‘Bengaleg’

Cysylltiedig