Syr Peter Blake: Adnabod yr Artist

Sir Peter Blake features in Word Made Flesh
Sir Peter Blake gan Devlin crow (wikimedia)

Ganwyd Peter Blake ym 1932 yn Dartford, Caint. Ymhlith ei ddiddordebau cynnar oedd llawer o wahanol fathau o adloniant poblogaidd gan gynnwys sinema, y syrcas, reslo, jazz a cherddoriaeth boblogaidd – ac yn naturiol, daethant oll yn rhan o'i waith celf. Bu'n ddisgybl yn Junior Art School Gravesend Technical College, lle cafodd addysg gelf drylwyr a thraddodiadol.

Ym 1950, cynghorwyd Blake i osgoi bod yn arlunydd ac anelu yn hytrach at fod yn ddylunydd graffeg – gan dybio y byddai'n rhoi bywiolaeth mwy sefydlog iddo. Gwnaeth gais i astudio graffeg yn y Coleg Celf Brenhinol gan gynnwys paentiad diweddar o'i chwaer, Shirley Blake, yn ei bortffolio. Ar sail y gwaith hwnnw, cafodd le yn yr ysgol baentio.

Disgrifir Blake yn aml fel tad bedydd celf bop ac ym 1961, ymddangosodd yn ffilm Ken Russell ar gyfer y BBC, Pop Goes the Easel. Mae'n enwog i lawer am ddylunio clawr albwm y Beatles, Sergeant Pepper's Lonely Hearts Club Band ym 1967. Mae Dylan Thomas yn ymddangos yng nghanol y criw dethol o arwyr ac eiconau, ar gais John Lennon.

Symudodd Blake o Lundain i Wellow yng Ngwlad yr Haf ym 1969. Ym 1975, roedd yn aelod sylfaenol o grŵp o artistiaid o'r enw'r 'Brotherhood of Ruralists' (gyda Jann Haworth, Ann a Graham Arnold, David Inshaw ac Annie a Graham Ovenden). Cafodd y newid yn ei batrwm byw effaith sylweddol ar ei waith. Bryd yma y cynhyrchodd Blake ei ddarluniau cymeradwy o stori enwog Lewis Carroll, Through the Looking Glass. Cafodd ei swyno gan Alice ac roedd yn arbennig o hoff o'r naws breuddwydiol a'i realaeth hudolus.

Drwy gydol y 1980au a'r 1990au, parhaodd Blake â nifer o brojectau masnachol a chelf gain gan weithio ar baentiadau dyfrlliw, collages a lluniadau ar yr un pryd. Ym 1994 derbyniodd wahoddiad i fod yn Drydydd Artist Cyswllt yr Oriel Genedlaethol yn Llundain a chynhyrchodd waith newydd gan ddwyn ysbrydoliaeth o'i chasgliad hanesyddol cyfoethog.

Mae gyrfa Blake wedi cwmpasu chwe degawd. Mae ei waith lawn mor anhygoel o amrywiol heddiw ac mae'n parhau i fod ymhlith yr artistiaid mwyaf dylanwadol a gwreiddiol ym Mhrydain.

<< Nol i arddangosfa Peter Blake

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.