Celtiaid yr Oes Haearn

O gyfnod adeiladu'r bryngaerau a dechrau defnyddio haearn, i amser gwrthsafiad y llwythau a goresgyniad y Rhufeiniaid, mae Oes Haearn y Celtiaid yng Nghymru (750CC-OC50) yn gyfnod diddorol eithriadol o newidiadau a datblygiadau.

Gallwn ddysgu am arferion, credoau a threfniadaeth y cymdeithasau Celtaidd cynnar trwy edrych ar yr olion a adawyd ganddynt. Mae archaeolegwyr yn ceisio gwneud pos jig-so - darnau o dystiolaeth o hen hanes pobl, a ganfuwyd yn ystod gwaith archwilio a chloddio neu ar hap. Mae 'sbarion' gwledd neu adfeilion anheddiad yn rhoi cliwiau i ni sy'n ychwanegu at ddarlun mwy cynhwysfawr o fywyd yn ystod yr Oes Haearn.

Pwy Oedd y Celtiaid Cyntaf?

Yng ngwaith yr awduron Groegaidd, Hecataeus a Herodotus, y ceir y cyfeiriadau ysgrifenedig cyntaf y gwyddom amdanynt at y Celtiaid, yn ystod y bumed a'r chweched ganrif Cyn Crist (600-400CC). Roedd y Groegiaid yn eu galw'n Keltoi neu Galatae a'r Rhufeiniaid yn cyfeirio atynt fel y Celtae a'r Galli (neu'r Galiaid). Roedd trigolion ardal Môr y Canoldir yn eu hystyried yn bobl estron a barbaraidd a drigai i'r gogledd o'r Alpau.

Ni wyddom beth oedd enw'r Celtiaid arnyn nhw'u hunain. Efallai mai'r ffordd orau o edrych ar y byd Celtaidd cyn-Gristnogol yw fel brithwaith llac o unbenaethau a chymdeithasau, yn hytrach na fel ymerodraeth neu genedl. Siaradent nifer o ieithoedd a thafodieithoedd Celtaidd a oedd yn perthyn i'w gilydd.

Yn fuan ar ôl 400CC, mae awduron clasurol yn dweud bod nifer fawr o Geltiaid wedi symud o ganolbarth Ewrop, dros yr Alpau, i ogledd yr Eidal ac i ddwyrain Ewrop. Ymosodwyd ar Rufain yn ystod y 380au CC. Ceir cofnod gan y daearyddwr Strabo am gyfarfod cyfeillgar rhwng y Celtiaid ac Alecsander Fawr yn y Balcanau yn 335CC, a gwyddom i'r Celtiaid ysbeilio safle cysegredig y Groegiaid yn Delffi yn 279CC.

A Oedd y Celtiaid yn Ysgrifennu?

Mae nifer fechan o arysgrifau cerrig wedi goroesi o'r Oes Haearn yn yr Eidal a Sbaen ond nid oes yr un enghraifft o Brydain. Yma, roedd pethau'n cael eu cadw ar gof a'u trosglwyddo ar dafod leferydd.

Bu tuedd i drin testunau o'r Canol Oesoedd Cynnar o Gymru ac Iwerddon, er enghraifft y Mabinogi, fel pe baent yn adlewyrchu bywyd yn y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, ysgrifennwyd y testunau llenyddol hyn dros fil o flynyddoedd ar ôl yr Oes Haearn. Roedd adrodd straeon yn dal i gael ei ddefnyddio i gynnal cof y bobl, ond roedd cymdeithas a chrefyddau wedi newid yn fawr yn ystod y cyfnod hwn.

Beth oedd gan y Rhufeiniaid i ddweud wrthym am Gymru a Phrydain?

Wrth i'r byd Rhufeinig ehangu i orllewin Ewrop, mae testunau hanesyddol a daearyddol yn cofnodi arferion a threfniadau'r brodorion. Hanesion Iŵl Cesar amdano'i hun yn gorchfygu Gâl yw ffynhonnell llawer o'n syniadau am y Celtiaid.

Nid oedd yr awduron clasurol byth yn cyfeirio at bobloedd Prydain fel Celtiaid na Galiaid. Yn hytrach, roeddent yn defnyddio enwau a gyfeiriai at lwythau, penaethiaid a daearyddiaeth yr ynysoedd. Yn ôl ffynonellau Rhufeinig, roedd o leiaf bedwar llwyth yn byw yn yr hyn yr ydym ni'n ei alw'n 'Cymru' erbyn goresgyniad y Rhufeiniaid (OC43-70): yr Ordovices neu'r Ordofigiaid (gogledd orllewin), y Deceangli (gogledd ddwyrain), y Demetae neu'r Dyfedwyr (de orllewin) a'r Silures neu'r Silwriaid (de ddwyrain).

A ddylem ni defnyddio'r term 'Celtiaid'?

Yn ddiweddar mae rhai academyddion, Simon James a John Collis yn fwyaf arbennig, wedi codi amheuon am y term 'Celtaidd'. Dywedant mai ychydig o gyfeiriadau a geir at y Celtiaid gan awduron clasurol.

Yn ystod y diwygiad Celtaidd cyntaf yn yr ail ganrif ar bymtheg, defnyddiwyd y gair i ddiffinio teulu'r ieithoedd Celtaidd. Yn ôl ieithyddwyr, ceir dau deulu o ieithoedd Celtaidd: Celteg-Q neu Goideleg (Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a Manaweg) a Celteg-P neu Frythoneg (Cymraeg, Llydaweg a Chernyweg). Yn y gorffennol, y gred oedd bod y ddau deulu ieithyddol yn cynrychioli dwy don o alllifiad Celtaidd o ganolbarth Ewrop i Brydain ac Iwerddon. Disodlwyd y ddamcaniaeth hon erbyn hyn. Un syniad yw bod yr ieithoedd Celtaidd wedi esblygu'n raddol dros ardal eang, yn hytrach na chychwyn yn sydyn o un ffynhonnell. Mae teulu'r ieithoedd Celtaidd yn un o'r grŵp o ieithoedd Indo-Ewropeaidd sydd wedi esblygu ers dyddiau cynnar cynhanesyddol.

Erbyn hyn, credir bod y syniad o un 'Gymdeithas Geltaidd' a system gredo Geltaidd ledled Ewrop cyn goresgyniad y Rhufeiniad yn or-syml ac yn anghywir. Yn hytrach, mae'r dystiolaeth archaeolegol yn dangos gwahaniaethau rhanbarthol cryfion, sy'n awgrymu brithwaith o gymdeithasau amrywiol dros Ewrop gyfan. Roedd gan bob un ei chredoau a'i harferion ei hunan. Wrth ddarllen y gorffennol fel hyn, gallwn ymfalch?o mewn dehongliad o gymdeithasau fel pethau amrywiol a deinamig.

A allwn ni adnabod y Celtiaid trwy eu celfydydd?

Mae celfyddyd Geltaidd, a elwid yn draddodiadol yn gelfyddyd La Tène, yn ymddangos fel arddull gelfyddydol yn y Swistir, Awstria, de'r Almaen a dwyrain Ffrainc yn ystod y bumed ganrif CC. Roedd yr arddull hon yn wahanol i arddull ardal Môr y Canoldir. Roeddent yn benthyca patrymau'r Groegiaid a'r Rhufeiniaid yn aml. Eitemau arddangos o statws uchel ac offer rhyfela yw'r rhan fwyaf o'r darnau addurnol sydd wedi goroesi. Ymddengys y gelfyddyd mewn cerrig, metel, crochenwaith, coed a gwydr. Erbyn 200CC, roedd Ynysoedd Prydain yn datblygu eu harddulliau arbennig eu hunain.

Mae archaeolegwyr sy'n astudio celfyddyd Geltaidd yn codi cwestiynau am ei hystyr. Yn aml, defnyddiwyd y gelfyddyd i awgrymu bod un 'Gymdeithas Geltaidd' ledled Ewrop yn rhannu'r un grefydd ac iaith. Nid yw'r ffaith bod pobl yn rhannu'r un ffurf gelfyddydol yn golygu o anghenraid eu bod yn rhannu'r un tras ethnig. Efallai mai ffasiwn a ledaenodd i wahanol rannau o'r cyfandir oedd celfyddyd Geltaidd.

Sut y mae archaeolegwyr yn dyddio Oes Haearn y Celtiaid?

Mae'r enw 'yr Oes Haearn' yn cyfeirio at y cyfnod pryd y cafodd technoleg newydd haearn ei darganfod a'i defnyddio. Yng Nghymru, daw'r gwrthrychau haearn cynharaf (750CC) o gelc Llyn Fawr, Rhondda Cynon Taf: cryman, cleddyf a gwaywffon. Yn draddodiadol, cyfrifir bod yr Oes Haearn wedi dod i ben yng Nghymru gyda dyfodiad y Rhufeiniaid (OC43 ymlaen).

Mae archaeolegwyr yn defnyddio nifer o wahanol dechnegau dyddio. Trwy dynnu'r pridd yn ofalus o safleoedd hynafol, haen wrth haen, gan gadw cofnodion o'r hyn a welant, gellir canfod beth oedd hanes y safle. Trwy gymharu pethau fel crochenwaith a gwaith metel, a welir yn y gwahanol haenau, mae cyfres o wahanol arddulliau'n dod i'r golwg. Os oes defnyddiau organaidd wedi goroesi, gellir mynd â samplau i gael prawf dyddio radio-carbon. Mae hyn yn rhoi trydydd dimensiwn i'r broses ddyddio. Mae ffynonellau hanesyddol, y rhan fwyaf ohonynt wedi'u hysgrifennu gan y Rhufeiniaid, gyda'u dehongliadau a'u rhagfarnau eu hunain, yn brin yn y cyfnod hwn yng Nghymru.