Cadwraeth Mwynau yng Nghymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru yw ymgynghorydd statudol y llywodraeth ar gynnal prydferthwch natur, bywyd gwyllt a chyfleoedd i fwynhau’r awyr agored ledled Cymru. Maen nhw’n rhoi gwasanaeth pwysig i’r gymuned a mwynolegwyr yn arbennig trwy amddiffyn safleoedd mwynolegol pwysig fel SoDdGA o dan Ran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt Cefn Gwlad 1981 a ddisodlwyd gan Atodlen 9 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Yn ogystal â’r ddeddfwriaeth SoDdGa, mae sawl safle sy’n bwysig i fwynoleg yng Nghymru yn cael eu cofrestru gyda pherchnogion ac Awdurdodau Cynllunio Lleol fel Safleoedd Daearegol Pwysig Rhanbarthol (RIGS). Er nad yw’r safleoedd hyn wedi eu hamddiffyn trwy statud, y gobaith yw y bydd cofrestru fel RIGS yn rhoi statws ac amddiffyniad i weithgareddau a allai arwain at golli adnodd mwynolegol pwysig.

Mae llyfryn gan Amgueddfa Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru o’r enw Trysorau Mwynol Cymru yn amlinellu egwyddorion cadwraeth mwynau. Gallwch gael copi gan un o’r ddau gorff.

Hanes Mwnyddiaeth yng Nghymru

Y Chwilwyr Mwynau Cyntaf

O waith ymchwil archaeolegol mewn nifer o fwyngloddiau yng Nghymru, fe wyddom ni bod pobl canol yr Oes Efydd wedi bod wrthi’n chwilio ac yn mwyngloddio am fwynau copr tua 1,500 mlynedd cyn i’r Rhufeiniaid ddod i’r wlad. Byddai’r gallu i: a) enwi mwynau; b) gwahaniaethu rhwng y mwynau defnyddiol a’r lleill; ac c) dehongli dyddodion mwynau yn syml, wedi bod mor bwysig i’r chwiliwr llwyddiannus (neu’r mwynolegydd) ag y mae e heddiw.

Yn y 3,500 o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers y cyfnod hwnnw, mae mwynau wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru. O’r Rhufeiniaid, i’r Mynachod Sisteraidd, i gymeriadau mawr mwyngloddio’r 17eg ganrif fel Thomas Bushell ac eraill, ac ymlaen i oes aur mwyngloddio metel yng Nghymru ganol y 19eg ganrif pan adeiladwyd ceuffyrdd a suddwyd siafftiau bas i weithio pob gwythïen neu ffawt oedd yn brigo dros wyneb y ddaear – maen nhw i gyd wedi gweithio mwynau metalifferaidd ac wedyn mwynau “sbar”. Mae aur, plwm, arian, copr, sinc a manganîs wedi bod yn ffocws sylw, tra bod ymdrechion wedi cael eu gwneud i gyrraedd cobalt, arsenic, antimoni, barytes a chalsit â gwahanol lefelau o lwyddiant. Wyddom ni ddim faint o bob mwyn a gynhyrchwyd – a hynny’n bennaf am mai ychydig iawn o gofnodion a gadwyd am y mwynau gafodd eu codi, eu naddu i’w dwysáu (y broses a ddefnyddir i dynnu deunydd gwastraff fel gwythiennau cwarts o greigiau llawn sylffid) a’u gwerthu. Mae cyfanswm y mwynau a gynhyrchwyd yng Nghymru felly’n cynrychioli canran anhysbys o’r cyfanswm.

Roedd rhai o’r mwyngloddiau o bwys Ewropeaidd oherwydd eu maint. Roedd y rhain yn cynnwys Mynydd Parys, Ynys Môn (copr – 18fed ganrif) a Van, ger Llanidloes ym Mhowys (plwm a sinc – 19eg ganrif). Tyfodd cymunedau cyfan o gylch y canolfannau llewyrchus hyn. Mae hyn yn gallu bod yn anodd ei ddychmygu, yn arbennig ganol gaeaf yn Nylife, gogledd Powys er enghraifft (a sawl lle tebyg arall). Doedd rhai o’r safleoedd eraill yn ddim mwy nag arbrofion ar hap, gyda’r nod o godi cyfalaf mentro ar y farchnad stoc a dim byd mwy. Roedd natur anghysbell rhai rhannau o Gymru yn ystod y 19eg ganrif yn ei gwneud hi’n arbennig o agored i fentrau diegwyddor lle sychodd cyflenwadau gwych o fwynau ar ôl sicrhau’r cyfalaf ar gyfer y datblygiad. Yn y cyfamser, syrthiodd nifer fawr o fwyngloddiau rhwng y ddwy stôl. Mae hanes mwyngloddio yng Nghymru’n bwnc difyr a chymhleth sydd wedi ei gofnodi’n dda, yn enwedig yn nhermau’r 250 mlynedd diwethaf.

CYHOEDDIADAU ALLWEDDOL:

Bick, D. E, 1993. The Old Metal Mines of Wales, Rhannau 1-6. Pound House, Newent.
Bick, D. E. 1985: The Old Copper Mines of Snowdonia. Ail Argraffiad, Pound House, Newent.
Davies, P. B. S. 1995. Forgotten Mines (The old lead and copper mines of Solva and St Davids (Merrivale, Tyddewi).
Hall, G. W. 1993. Metal Mines of Southern Wales. Ail Argraffiad. Griffin Publications, Sir Henffordd.
Hall, G. W. 1990. The Gold Mines of Merioneth. Ail Argraffiad. 99pp. Griffin Publications, Kington.
Hall, G. W. 1995. The Minera Mines from 1849. Yn: Bennett, J. (Gol.): Minera Lead Mines & Quarries. Cyngor Bwrdeistref Wrecsam Maelor, p45-67.
Hughes, S. J. S. 1981. The Cwmystwyth Mines. British Mining No. 17. Northern Mines Research Society.
Hughes, S. J. S. 1988. The Goginan Mines. British Mining No. 35. Northern Mine Research Society.
Hughes, S. J. S. 1990. The Darren Mines. British Mining No. 40. Northern Mine Research Society, 131-141.

Ar Drywydd Mwynoleg Yng Nghymru

Yng nghyd-destun casglu mwynau er mwyn casglu mwynau, mae mwynoleg yn weithgaredd â hanes cymharol fyr yng Nghymru. Mae hyn yn hollol groes i’r canrifoedd niferus pan roedd mynd mawr ar gasglu mwynau fel mwynau metel. Dechreuodd y naturiaethwyr bonheddig oedd yn ffynnu yn y 18fed a’r 19eg ganrifoedd roi jig-so Mwynoleg Cymru at ei gilydd. Mae’r jig-so’n dal i fod yn anghyflawn am fod cofnodion am rywogaethau sy’n newydd i Gymru yn cael eu gwneud a’u cyhoeddi bron bob blwyddyn bron.

Ym 1858, cyhoeddodd Robert Philips Greg a William Garrow Lettsom eu llyfr enwog Mineralogy of Great Britain and Ireland. Y llyfr yma oedd yr ymgais gyntaf i restru a disgrifio holl fwynau’r Deyrnas Unedig. Rhestrwyd cyfanswm o 241 o rywogaethau o fwynau. O’r rhain roedd 47 yn codi’n lleol yng Nghymru. Mwynau a ffeindiwyd wrth fwyngloddio a chwarela oedd y rhan fwyaf o’r rhywogaethau a enwyd – dyna pam bod y mwynau cyffredin a chynnyrch newid copr, plwm a sinc yn codi yn y rhestr, ac aur hefyd. Ond nid oedd y gwaith yn gynhwysfawr. Er enghraifft, cafodd disgrifiad o analsim o Fôn a gyhoeddwyd gan J. S. Henslow (tiwtor Charles Darwin fel mae’n digwydd) ym 1822, ei hepgor.

Yn wahanol i ardaloedd mwyngloddio eraill, fel Dyfnaint a Chernyw, ni ddaeth prynwyr a gwerthwyr mwynau a chwilwyr sbesimenau yn llu i feysydd mwynau Cymru. Ond roedd ambell i eithriad, gan gynnwys y naturiaethwr enwog o’r 18fed ganrif, Thomas Pennant (1726-1792) oedd yn arbennig o weithgar yn ei ardal leol (ardal Halcyn yn y gogledd-ddwyrain). Mae casgliad mwynau ei gyfoeswr o Gernyw, Philip Rashleigh, yn cynnwys sbesimenau o’r ardal yma: yn ddiddorol ddigon, roedd Mr Pennant yn cyflenwi sbesimenau ar gyfer Rashleigh.

Cafodd mwynoleg yng Nghymru hwb yn y 19eg change to early 20th Centuary ganrif ddiweddar pan gasglwyd llawer o ddeunydd pwysig gan Brif Arolygydd Mwyngloddiau’r Gogledd ar y pryd, G. J. Williams. Byddai llawer o fwynolegwyr modern yn genfigennus iawn o’i swydd. Yn ystod ei deithiau o gwmpas mwyngloddiau ledled y gogledd yn rhinwedd ei swydd, byddai’r cyfleoedd i gasglu sbesimenau cyfoes cywrain wedi bod yn doreithiog. Daeth deunydd Williams i ddwylo Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1927.

Er gwaethaf y dirywiad graddol yn niwydiant mwyngloddio Cymru, tyfodd y diddordeb ym mwynau Cymru’n raddol gydol yr 20fed ganrif. O’r 1960au ymlaen, gwelwyd ymchwydd mawr yn niferoedd y casglwyr amatur. Mae argaeledd microsgopau wedi ein galluogi ni i ystyried mwynau microrisialaidd (oedd yn aml yn hynod o brydferth o dan y chwyddwydr). Arweiniodd hyn at ddarganfod llawer o rywogaethau prin o fwynau yng Nghymru diolch i ymroddiad sawl mwynolegydd amatur.

Oherwydd hyn, pan gyhoeddwyd argraffiad cyntaf Mwynoleg Cymru ym 1994, roedd e’n cynnwys cyfanswm o 340 o rywogaethau o fwynau. Felly mae nifer y rhywogaethau yng Nghymru wedi lluosogi i saith gwaith ei maint yn y 136 mlynedd ers gwaith Greg a Lettsom. Ond yr ystadegyn mwyaf trawiadol ohonyn nhw i gyd yw bod 161 (h.y. bron i hanner) o’r 340 o rywogaethau o fwynau a restrwyd yn yr argraffiad cyntaf wedi cael eu darganfod yn y cyfnod 1960-1994, trwy waith academyddion ac amaturiaid.

Minerals - Where and How They Occur (Saesneg yn unig)

Extra information on mineralogy and minerals in Wales is provided here to complement the mineral database pages. If you would like further information or have any geological or mineralogical queries please contact the Mineralogy & Petrology Section, Amgueddfa Cymru — National Museum Wales via the feedback & contact page.

Minerals occur in a wide range of geological settings. Many are found as the essential constituents of rocks: these are termed rock-forming minerals, while others are found concentrated in mineral deposits. Rocks are divided into three main categories, igneous, metamorphic and sedimentary, and each of these categories is subdivided further using internationally agreed terminology and definitions. Mineral deposits have no such single standard for classification. The Welsh mineral deposits, described in this site, have therefore been grouped into an extensive range of settings to provide a clearer picture of the geological processes that formed them.

Rock-forming minerals:

Ore deposits:

Mwynoleg yn Amgueddfa Cymru

Mae gwreiddiau Casgliad Mwynau Amgueddfa Cymru yng nghasgliadau hen Amgueddfa Caerdydd. Roedd llawer o sbesimenau o Gymru yn y casgliad, gan gynnwys rhai S. Vivian, rheolwr Mwynglawdd Haearn Llanhari. Cafodd y casgliadau eu cyfoethogi’n sylweddol wrth brynu deunydd G. J. Williams ym 1927. Roedd y casgliad pwysig yma o sbesimenau’n cynnwys llawer o ddeunydd clasurol a gasglwyd o fwyngloddiau yn y canolbarth a’r gogledd. Cafodd y casgliad ei gyfoethogi eto gan y Ceidwad Daeareg cyntaf, F. J. North, a gyhoeddodd ddeunydd ac a fagodd ddiddordeb mewn mwynoleg, ac yn enwedig mwynoleg maes glo’r de (e.e. North, 1916, North a Howarth, 1928).

Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y Casgliad Mwynau yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, ar ffurf Casgliad King a ddaeth i law ym 1983 a gwahanol gasgliadau ymchwil eraill. Mae’r rhain yn cynnwys casgliadau J. N. Firth (mwynau maes glo’r de), J. W. G. Gilbey (llain aur Dolgellau), J. S. Mason (maes mwynau’r canolbarth), ac R. Metcalfe (mwynau hydrothermol Llanfair-ym-Muallt). Casglwyd llwyth o fwynau pellach yn ystod project MINESCAN (1996-2000) gan beri bod y Casgliad Mwynau’n cynrychioli’r adnodd ymchwil mwyaf cynhwysfawr sydd ar gael am fwynoleg Cymru.

Roedd MINESCAN, project partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, yn cynnwys ymweliadau maes â phob mwynglawdd metel ac ardal mwynol arall yng Nghymru i asesu eu pwysigrwydd fel safleoedd mwynolegol a/neu fetelifferaidd. Yn ystod yr astudiaeth pedair blynedd yma (1996-2000), daeth nifer o safleoedd (a sbesimenau) mwynoleg newydd i’r golwg ac mae llawer o’r data newydd a gyflwynir yma’n codi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o MINESCAN.

Cyhoeddiadau

North, F. J., 1916. The minerals of Glamorgan. Transactions of the Cardiff Naturalists' Society, 49, 16-51.
North, F. J. a Howarth, W. E., 1928. On the occurrence of millerite and associated minerals in the Coal Measures of South Wales. Proceedings of the South Wales Institute of Engineers, 44, 325-348.
Bevins, R. E. a Mason, J. S., 1997. Welsh metallophyte and metallogenic evaluation project: Results of a minesite survey of Dyfed and Powys. CCW Contract Science Report No. 156, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
Bevins, R. E. a Mason, J. S., 1998. Welsh metallophyte and metallogenic evaluation project: Results of a Minesite Survey of Gwynedd. Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
Bevins, R. E. a Mason, J. S., 1999. Welsh metallophyte and metallogenic evaluation project: Results of a Minesite Survey of Clwyd. Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
Bevins, R.E. a Mason, J.S., 2000. Welsh metallophyte and metallogenic evaluation project: Results of a Minesite Survey of Glamorgan and Gwent. Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

SUT I DDEFNYDDIO CASGLIAD AMGUEDDFA CYMRU

Nod Amgueddfa Cymru yw sicrhau bod gwybodaeth a samplau ar gael i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. I weld data neu samplau MINESCAN neu rai eraill Amgueddfa Cymru, llenwch y ffurflen adborth electronig neu cysylltwch â ni drwy’r post neu alwad ffôn Cysylltwch â Ni

What is a Mineral?

" Ar y cyfan, elfen neu gemegyn cyfansawdd yw mwyn, sydd fel arfer yn grisialog ac sydd wedi cael ei ffurfio trwy brosesau daearegol.”

- E.H. Nicke (1995).

Ond mae’r diffiniad yma’n golygu nad yw rhai mwynau, fel y rhai a geir mewn ceudodau mewn hen domenni slag ffwrneisi mwyndoddi neu hen rwbel adeiladu, yn cael eu hystyried fel mwynau mwyach. Caiff y gwahaniaeth ei seilio ar y syniad bod Dyn wedi chwarae gormod o ran yn y gwaith o’i chreu am fod y matrics neu’r wedi deunydd lletyol ei hunan o wneuthuriad dyn. Mae’r mwynau hyn yn dal i gael eu cynnwys ar gronfa ddata The Mineralogy of Wales yn yr un modd â rhai cyfansoddion organig.

Sut caiff enwau mwynau eu cymeradwyo’n swyddogol?

Y Comisiwn ar Fwynau Newydd ac Enwau Mwynau (CNMMN), sy’n rhan o’r Gymdeithas Fwynoleg Ryngwladol (IMA), yw’r awdurdod sy’n dyfarnu ar statws mwynau hen a newydd. Mae rheolau llym i benderfynu pa enwau a diffiniadau o fwynau sy’n ddilys a pha rai ddylai gael eu diystyru. Dyma’r categorïau welwch chi yn y deunydd:

A (Data cymeradwy) – ar gyfer mwynau hen a newydd a adolygwyd ac a gymeradwywyd gan y CNMMN;

D (Data wedi’i wrthbrofi) – gwrthodwyd y sail ar gyfer enw’r mwyn yma gan CNMMN, fel rheol am fod mwyn â’r nodweddion yma’n bodoli eisoes;

G (Mwyn ‘Hynafiad’) – enw oedd yn cael ei ddefnyddio cyn cyflwyno cymeradwyaeth CNMMN. Nid yw’n gymeradwy, ond mae’r gymuned mwynoleg yn ei ddefnyddio;

R Mwynau wedi eu hail-enwi/ailddiffinio neu eu hailddilysu gan y CNMMN;

Q (Statws amheus) – nid yw’r mwyn wedi cael ei wrthbrofi, ond mae gan yr awduron rhai amheuon am ei ddiffiniad.

International Mineralogical Association