Croeso i dudalen archaeoleg cymuned Darganfod Wyddgrug yr Oes Efydd

Tref farchnad yng Nghwm Alun, Sir y Fflint yw’r Wyddgrug. Datblygodd y dref a welwn heddiw yn y canol oesoedd, gydag eglwys y Santes Fair yn ganolbwynt iddi.

Er bod y dref ei hun o’r canol oesoedd, mae ei hanes dipyn yn hŷn. Mantell Aur yr Wyddgrug, a ganfuwyd ar fryn ar gyrion y dref, yw yn un o drysorau pwysicaf yr Amgueddfa Brydeinig. Mae’n brawf bod yr ardal yn ganolfan grym a seremoni ac yn lleoliad pwysig iawn yn yr Oes Efydd.

Gan weithio mewn partneriaeth â’r Amgueddfa Brydeinig, cafodd y Fantell ei harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Amgueddfa Wrecsam yn ystod haf 2003, a threfnwyd rhaglen gwaith maes gyda chymuned y Wyddgrug i ddathlu’r achlysur.

Amcanion y project oedd:

  • Hwyluso gwaith maes yn y man lle canfuwyd y Fantell er mwyn cynyddu ein dealltwriaeth o gyd-destun y gladdedigaeth.
  • Codi ymwybyddiaeth o weddillion o’r Oes Efydd yng Nghwm Alun ac esbonio pwysigrwydd yr ardal yn y cyfnod.
  • Rhoi cyfle i gymuned yr Wyddgrug fod yn rhan o’r gwaith ymchwil i hanes y Fantell.
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.