Plasty Margam, Morgannwg, tua'r Gogledd

Plasty Margam, Morgannwg, tua'r Gogledd

Yr Ysgol Brydeinig. Olew ar gynfas. Tua 1700

Ochr ddeheuol Plasty Margam oedd prif fynedfa'r plasty hwn o'r unfed a'r ail ganrif ar bymtheg.

Ar waelod y darlun, gallwch weld teithwyr yn pasio'r gatiau. Mae lôn goed yn arwain at ail fynedfa, gyda gardd ddŵr ffurfiol tu hwnt.

Pan ailwampiwyd llety'r mynachod yn gartref yn y 1550au gan Syr Rice Mansel, penderfynodd gadw'r porthdy canoloesol. Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o'r adeilad â'r talffenestri ar y dde a'r tŵr canolog yn dyddio o oddeutu 1600. Serch hynny, parhaodd y teulu Mansel i addasu a gwella'r plasty, ac roedd yr adain ar y chwith wedi'i moderneiddio a'i hymestyn tua deng mlynedd ar hugain ynghynt.

Mae pobl yn chwarae bowls o flaen y tŷ gwledda yng nghornel dde'r darlun. Mae ceirw'n pori yn y parc, ac fe welir perllannau â mur o'u cwmpas a thai allan. Mae'r arlunydd wedi addasu amlinelliad y tri bryn yn y cefndir i fframio'r plasty yn ei dirwedd.

Prynwyd gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Gronfa Gelf, 2012. 2012. NMW A 29925

 

Archwiliwch y Llun

Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ddod i wybod mwy am y llun

Bryniau coediog

Saif y plasty o flaen tri bryn coediog, sef o'r chwith i'r dde: Craig y Capel, Craig Cwm Maelwg a Mynydd y Castell. Mae'r artist wedi newid ei lleoliad a'u proffil go iawn er mwyn creu cefndir deniadol i'r plasty.

Adeilad anhysbys

Gwelir adeilad tal ar gopa Mynydd y Castell. Mae ansicrwydd am yr adeilad hwn am nad yw wedi goroesi hyd heddiw.

Pensaernïaeth y plasty

Mae ochr orllewinol yr adeilad gyda'i bortico clasurol a dyluniad unedig yn gwrthgyferbynnu â'r ochr ddwyreiniol, sy'n gymysgedd o fynedfeydd bwaog canoloesol a ffenestri pigfain. Cafodd yr ochr hon ei datblygu'n ddiweddarach, fwy na thebyg.

Tŷ Gwledda

Mae grwp o bobl yn chwarae bowls ar y lawnt tu allan i'r T? Gwledda. Cafodd y t? ei ddymchwel ym 1835 i wneud lle ar gyfer Castell Margam. Defnyddiwyd y cerrig i drwsio ffyrdd ar yr ystâd, ond cafodd y ffasâd clasurol ei ailadeiladu tu ôl i'r Orendy yng ngerddi'r parc, ac mae'n dal yno heddiw.

Bythynnod y gweithwyr

Ym mlaen y maes parcio, ger y muriau terfyn mae dau fwthyn bach. Byddai bythynnod o'r fath wedi bod yn gartref i'r nifer fawr o bobl oedd yn gweithio ar yr ystâd fawreddog. Efallai mai ciper y ceirw neu'r heliwr oedd yn byw yma.

Pyllau pysgod

Mae pedwar pwll pysgod hirsgwar – a adeiladwyd cyn 1684 – yng nghanol y gerddi ffurfiol. Byddai pyllau o'r fath yn llawn pysgod, er mwyn bwydo trigolion y plasty ond hefyd am eu bod yn ddeniadol ac yn adloniant da.

Bywyd y pentref

Mae'r pentrefwr hwn ar gefn ei geffyl wedi troi i edrych yn syth atom, er bod eraill yn parhau â'u bywydau beunyddiol. Mae cymeriad arall tu ôl, cario dryll neu gleddyf, ar gyfer hela ceirw o bosib?

A48

Mae hen ffordd y plwyf o flaen waliau'r parc, gan ymlwybro tuag at bentref Margam. Heddiw, dyma lwybr yr A48. Mae menyw'n cerdded heibio'n cario llwyth ar ei phen, efallai ei bod ar ei ffordd nôl o'r farchnad.

Hyddod brith

Wrth ddangos yr haid o hyddod brith, mae'r artist yn ymhyfrydu yn y manylion yma. Gwyddom i'r mynachod Sistersaidd, a sefydlodd abaty yma ym 1147, hela ceirw gwyllt. Ym 1558, rhoddwyd trwydded i Syr Rice Mansel godi ffens o amgylch y parc i gadw'r ceirw i mewn. Mae hyddod brith wedi bod yn y parc byth ers hynny.

Pyllau pysgod

Dengys y tri phwll pysgod cyflin yma ar lethr y T? Gwledda. Mae olion y pyllau i'w gweld heddiw, ar dir i'r dwyrain o'r maes parcio.

Related