Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Plasty Margam, Morgannwg, tua'r Dde

Plasty Margam, Morgannwg, tua'r Dde

Plasty Margam, Morgannwg, tua'r Ddeg

Yr Ysgol Brydeinig. Olew ar gynfas. Tua 1700

Adeiladau domestig Abaty Margam oedd man cychwyn datblygu Plasty Margam yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. Ochr ogleddol y plasty oedd cefn y tŷ ac mae ei gynllun yn adlewyrchu sut y câi ei ddefnyddio. Roedd ystafelloedd y teulu, gyda'u ffenestri di-ri, ar y chwith, a'r ceginau, y stablau a llety'r gweision a'r morwynion ar y dde. Mae olion y cabidyldy yn y canol, ynghyd ag eglwys y plwyf gerllaw, sy'n un o adeiladau'r fynachlog ganoloesol a oedd wedi goroesi. Di-nod iawn yw adeiladau bach to gwellt pentref Margam yng nghornel dde isa'r darlun, o gymharu â'r plasty.

Saif y plasty mewn parc ceirw gyda pherllannau a gerddi ffurfiol o'i gwmpas. Tŷ gwledda yw'r adeilad sy'n debyg i dŵr ar y chwith, a adeiladwyd tua 1670. Y tu hwnt iddo, mae rhodfa osgeiddig yn arwain y llygaid drwy'r caeau cyfagos i bentref bach Notais a thwyni tywod Cynffig, sydd yn llygad yr haul, a gwelir Môr Hafren yn y pellter.

Prynwyd gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Gronfa Gelf, 2012. NMW A 29924

Archwiliwch y Llun

Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ddod i wybod mwy am y llun

Aneddiadau arfordirol

Mae'r olygfa hon yn edrych tua twyni tywod Cynffig yng ngolau'r haul. Ar un adeg, roedd Cynffig yn dref ganoloesol brysur, ond erbyn y 17eg ganrif roedd dan dywod yn gyfangwbl. Mae aneddiadau i'w gweld ar hyd yr arfordir, gan gynnwys Notais a Drenewydd, Castell Cynffig a T? Sgêr.

Melin wynt

Mae'r felin wynt hon yn gofnod o dreftadaeth amaethyddol yr ardal.

Tirwedd wledig

Mae rhodfa osgeiddig yn arwain y llygaid drwy'r caeau cyfagos i'r arfordir a thu hwnt ac ar draws Môr Hafren i Wlad yr Haf a Dyfnaint. Mae'r dirwedd dawel amaethyddol hon wedi ei gweddnewid erbyn hyn gan ddatblygiadau diwydiannol modern – cronfa Eglwys Nunydd, gwaith dur Port Talbot a thraffordd yr M4.

Tŷ Gwledda

Mae T? Gwledda Haf yn nodwedd amlwg tua pen uchaf y berllan derasog. A fedrwn ni gymryd yn ganiataol mai ychwanegiad diweddar i'r ystâd ydyw o ystyried pa mor llachar mae'r gwaith paent ar y cerrig a'r astell dywydd o gymharu â'r gweddill? Mae ehangu'r ystâd (a chomisiynu'r paentiadau) yn awgrymu cyfnod llewyrchus.

Gardd addurnol

Mae'r patrwm geometrig ffurfiol ar y ddaear yma'n awgrymu gardd addurnol. Daeth gerddi addurnol yn boblogaidd yn yr 16eg a'r 17eg ganrif. Fel arfer, fe'u crëwyd o berlysiau a phlanhigion isel, fel teim, isop a lafant. Mae'r persbectif yma ychydig yn wallus.

Iard gefn

Yn yr ochr yma o'r adeilad yr oedd ystafelloedd preswyl y teulu, fwy na thebyg. Yn yr iard gefn balmantog, mae'r artist wedi dangos gr?p o bobl yn sgwrsio. Ai dyma berchnogion y plasty tybed, y Teulu Mansel?

Abaty Margam

Wedi Diddymiad y Mynachlogydd, parhaodd y Teulu Mansel i ddefnyddio corff yr Abaty fel eglwys y plwyf. Abaty Margam yw un o'r ychydig nodweddion pensaernïol yn y paentiad sydd wedi goroesi hyd heddiw yn ei leoliad gwreiddiol. Yma mae beddrodau'r teulu Mansel.

Y Cabidyldy

Adeiladwyd y Cabidyldy'n wreiddiol ar gyfer mynachod Sistersaidd fyddai'n cyfarfod yma i drafod eu busnes bob dydd. Ar ôl y Diddymiad, cafodd ei ymgorffori i Blasty Margam, a'i ddefnyddio at ddibenion domestig: erbyn y 18fed ganrif, roedd yn storfa lo a defnyddiwyd y cyntedd i fragu cwrw.

Related