Ffilmio a Ffotograffiaeth

Rydym yn croesawu ceisiadau i ffilmio yn cynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu teledu, rhaglenni dogfen, rhaglenni ffeithiol, cyfweliadau a sesiynau ffotograffiaeth. Mae ein saith amgueddfa'n cynnig amrywiaeth o leoliadau unigryw – o adeiladau hanesyddol i ecody o'r unfed ganrif ar hugain, deinosoriaid i orielau celf, gerddi ffurfiol i bwll glo.

Ffilmio

Mae dramâu teledu a ffilmiwyd yn ein hamgueddfeydd yn cynnwys Dr Who, Torchwood, Sherlock, Pobl y Cwm a Gwaith Cartref. Rydym hefyd wedi ymddangos ar Snowdonia 1850, The Coal House ac Ancient Britain ac wedi bod yn lleoliad i'r gyfres boblogaidd Antiques Roadshow yn ddiweddar.

Mae'r holl elw o ffilmio masnachol yn helpu i gynnal a chadw a gweinyddu'r Amgueddfeydd.

Cysylltwch â ni… Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag aelod o'r tîm Ffilmio Masnachol:

Ffôn: (029) 2057 3327 / 3129
Ffacs: (029) 2057 3326

Ebost: Ffilmio

Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.