Rydych chi yn:  >   > 

Canllawiau Mynediad Amgueddfa Lechi Cymru

Cyngor i ymwelwyr anabl

Audio Version

[delwedd: Sain]

Gwrando ar fersiwn sain (1.7mb, MP3)

Pobl sy'n methu cerdded yn dda

  • Mae mannau parcio arbennig ar gyfer pobl anabl i'w cael ym Mharc Gwledig Padarn. Maes parcio talu ac arddangos yw hwn ac felly dylid dangos bathodyn glas. Mae bysus yn cael parcio am ddim.
  • Ceir llwybrau gwastad wedi'u palmantu o'r maes parcio i'r amgueddfa. Mae'r rhain yn addas ar gyfer ein holl ymwelwyr.
  • Mae pobl sydd mewn cadeiriau olwyn neu sydd â choetsis babanod a phlant bach yn mynd i mewn i'r amgueddfa trwy'r siop.
  • Mae cadair olwyn ar gael i'w defnyddio os gofynnwch amdani yn y siop. Ni ellir trefnu ymlaen llaw i ddefnyddio'r gadair olwyn hon a'r cyntaf i'r felin gaiff falu ond byddwn yn ystyried ceisiadau a gawn ymlaen llaw.
  • Ceir seddau yma a thraw yn yr amgueddfa – ger y theatr ffilm ac wrth ymyl y caffi. Gofynnwch i aelod o'r staff os bydd arnoch angen sedd yn rhywle arall.

Mynediad i'r safle

Gall pobl mewn cadeiriau olwyn fynd ar eu pen eu hunain i'r rhan fwyaf o'r amgueddfa, ar hyd y llwybrau llechi a graean. Gellir mynd mewn lifft i weld yr olwyn ddŵr yng nghefn yr amgueddfa a gellir mynd i'r incl'in V2 ym Mharc Gwledig Padarn ar hyd llwybr sydd wedi'i baratoi gan Gyngor Gwynedd. Mae'r llwybr hwn yn cychwyn y tu ôl i orsaf Rheilffordd y Llyn.

Fodd bynnag, oherwydd natur adeiladau'r amgueddfa efallai y bydd angen cymorth mewn rhai mannau:—

  • Mae cledrau rheilffordd yn rhedeg ar draws y safle a gall y rhain beri anawsterau os bydd ymwelwyr yn gadael y llwybrau swyddogol. Gofynnwch am gymorth.
  • Y Llofft Batrymau
    Gwaetha'r modd, mae'n rhaid dringo grisiau serth i gyrraedd y llofft batrymau ar hyn o bryd ac felly ni ellir mynd yno mewn cadair olwyn.
  • Yr Efail
    Mae'r llwybr yn mynd braidd yn gul yn yr efail ac ni ellir mynd ar hyd y llwybr arferol mewn cadair olwyn. Gofynnwch i aelod o'r staff am gymorth i agor y bariau fel y gallwch fynd i mewn.
  • Fron Haul – Tai Chwarelwyr
    Gellir mynd i'r tai hyn drwy ddilyn y llwybr heibio i'r caffi a'r maes Chwarae a Darganfod. Mae'r llwybr hwn ar ychydig o lethr ac efallai y bydd angen cymorth aelod o'r staff ar bobl sy'n dod mewn cadair olwyn ar eu pen eu hunain. Mae natur y tai hyn a'r ffaith eu bod mor debyg ag y bo modd i'r gwreiddiol yn golygu ei bod yn anodd mynd iddynt yn y rhan fwyaf o gadeiriau olwyn. Gofynnwch i aelod o'r staff os cewch drafferth.

Pobl sydd â Nam ar y Golwg

  • Un o bleserau mawr ymweld â safle diwydiannol fel Amgueddfa Lechi Cymru yw profi sŵn ac arogleuon yr eitemau a'r arddangosiadau. Ychydig o bethau sydd mewn casys gwydr yma. Mae staff yr Amgueddfa a'r crefftwyr yn barod iawn i ganiatáu i ymwelwyr gyffwrdd â'r eitemau a gafael ynddynt ac i roi esboniad llawn o'u pwrpas.
  • Gellir cysylltu â'r Swyddog Addysg i drefnu sesiynau i deimlo eitemau'r amgueddfa.

Pobl sy'n Drwm eu Clyw

  • Gellir gweld cyflwyniadau fideo yma a thraw yn yr amgueddfa.
  • Mae dolenni anwytho ar gael a gellir gwisgo penset yn y theatr ffilm.

Cyfleusterau

  • Gall pobl mewn cadair olwyn fynd i'r siop ac i'r caffi.
  • Mae toiledau ar gyfer yr anabl yn adeilad y caffi.
  • Mae cyfleusterau newid babanod i'w cael yn nhoiledau'r merched a'r dynion yn adeilad y caffi. Gofynnwch am gymorth i agor y drysau os bydd angen.
  • Mae croeso i gŵn tywys ar gyfer y deillion a'r byddar. Ceir dysglau dŵr wrth y fynedfa i'r amgueddfa, ger y caffi ac yn ymyl Tai'r Chwarelwyr.

Cŵn

  • Caniateir cwn ar y safle ond rhaid eu cadw ar dennyn. Croesewir cwn tywys ar gyfer pobl â nam ar eu golwg ac ar eu clyw a chânt fynd i Dai'r Chwarelwyr ac i Dy'r Prif Beiriannydd.
  • Darperir dŵr ar gyfer cŵn o bob math wrth y fynedfa a'r tu allan i'r caffi.
  • Rhaid i gwn fynd oddi ar y safle i wneud eu busnes. Gofynnwch i'r staff am gyngor.

Am resymau hanesyddol, nid yw ymwelwyr sydd ag anghenion arbennig yn gallu mynd i bob rhan o bob un o'n hamgueddfeydd. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i wella'r sefyllfa lle bo modd. Os oes gennych ryw awgrymiadau a allai ein helpu i wneud hyn, rhowch wybod i aelod o'r staff neu ysgrifennwch at: —

Elizabeth Power, Swyddog Mynediad ac Amrywiaeth, Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP

Gwybodaeth

Llanberis, Gwynedd
Ar agor 10am-5pm bob dydd (Pasg-Hydref), 10am-4pm Sul-Gwener (Tachwedd-Pasg)

Ffôn:
(029) 2057 3700

Switsfwrdd (cost galw safonol): 0300 111 2 333

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.