Gweithdai ac Adeiladau Amgueddfa Lechi Cymru

[delwedd: Una]

Cafodd y gweithdai eu hadeiladu ym 1870 ar batrwm tebyg i gaer o gyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig.

Mae’r cwrt canolog, tŵr y cloc a'r ffenestri cywrain yn rhoi iddynt gymeriad unigryw sydd i'w weld o hyd.

Mae'r Amgueddfa fel capsiwl amser. Mae fel petai'r chwarelwyr a'r peirianwyr newydd roi eu hoffer ar y bar a chychwyn am adref.

[delwedd: Rhod dd?r]

Gall plant ac oedolion ddeall a mwynhau ein dehongliad llawn dychymyg o olion hynod y diwydiant llechi. Ymwelwch â thŷ'r prif beiriannydd sydd wedi eu hailddodrefnu yn arddull 1911 a chymerwch daith afaelgar o gwmpas y gweithdai, y gefeiliau a'r ffowndri haearn a phres.

Ewch i'r sied drenau i gyfarfod ag Una, injan stêm 0-4-0 61 centimetr o led a adeiladwyd ym 1905. Mae'n hollol weithredol ac yn codi stêm yn gyson. Mae'n creu argraff wych wrth stemio ar hyd y cledrau yn ei gwisg eurwerdd.

Dewch i weld y peirianwaith ynni dŵr a ddefnyddiwyd i wneud offer i gloddio llechi a'r rhod ddŵr ysblennydd sy'n ei yrru. Hon yw'r rhod ddŵr fwyaf ar dir mawr Prydain.

Darganfyddwch mwy am y weithdai ac adeiladau i gyd yn Amgueddfa Lechi Cymru.

Gwybodaeth

Llanberis, Gwynedd
Ar agor 10am-5pm bob dydd (Pasg-Hydref), 10am-4pm Sul-Gwener (Tachwedd-Pasg)

Ffôn:
(029) 2057 3700

Switsfwrdd (cost galw safonol): 0300 111 2 333

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.