Mae ein gwefan yn newid. Rydym ni’n treialu tudalennau newydd: beth ydych chi’n feddwl amdanynt? Mwy
Dewislen

Fron Haul – Tai’r Chwarelwyr

Amgueddfa Lechi Cymru

[delwedd: Fron Haul — Tai'r Chwarelwyr ]

Teithiwch drwy amser yn ein rhes o bedwar o dai chwarelwyr sy’n ail-greu gwahanol gyfnodau yn hanes y diwydiant llechi.

Mae un o'r tai wedi cael ei ddodrefnu fel yr oedd yn ystod yr ‘Oes Aur’, un arall yn ystod Streic enwog y Penrhyn, ac un arall fel yr oedd pan gaewyd Chwarel Dinorwig.

Mae'r pedwerydd yn cynnig adnoddau dysgu rhyngweithiol i ysgolion, plant, a’u teuluoedd - un ymhlith nifer o weithgareddau addysgiadol ond llawn hwyl sydd ar gael ar y safle. Beth am gychwyn eich ymweliad yn Rhif 4 Fron Haul? Yma gallwch weld ffilm ‘Straeon yn y Meini’ sy’n adrodd hanes y tai, y bobl fu’n byw ynddynt, a’r gwaith o’u datgymalu a’u hail-godi yma yn yr amgueddfa.

Mae Rhif 3 Fron Haul yn ail-greu Tanygrisiau ym 1861 - yr ‘Oes Aur’ - pentref a dyfodd yn sgìl datblygiad y chwareli. Byddai’r plant yn aml yn gorfod rhannu ystafell neu wely â’u rhieni. Câi blanced ei chrogi o’r nenfwd yn ystod y nos er mwyn rhannu’r ystafell a cheisio creu ychydig o breifatrwydd!

Mae Rhif 2 Fron Haul yn ail-greu Bethesda ym 1901 ac amser Streic Fawr y Penrhyn (1900-1903) - un o’r anghydfodau hiraf yn hanes diwydiannol Prydain. Nid oedd gan deuluoedd y streicwyr ddigon o arian i brynu bwyd - sylwch ar y dorth ar y bwrdd.

Ar 22 Tachwedd 1900, oherwydd anghydfod ynghylch tâl, cerddodd 2,800 o chwarelwyr allan o Chwarel y Penrhyn. Ni aeth 1,000 o’r chwarelwyr byth yn ôl.

[delwedd: Rhif 1 Fron Haul, 1969]

Ym 1901, dychwelodd tua 500 o ddynion i’r gwaith gan greu drwgdeimlad mawr. Credai gweddill y gymuned eu bod yn ‘Fradwyr’. Gosodwyd cardiau yn y ffenestri i ddatgan yn glir nad oedd bradwr yn byw yn y tŷ.

Dewch i gael blas o Lanberis ym 1969 yn Rhif 1 Fron Haul – diwedd cyfnod. Yn ei hanterth (1850-1910) roedd chwarel Dinorwig yn cyflogi dros 3,000 o ddynion, ac yn dosbarthu llechi i bob cwr o’r byd. Ond dirywiodd y diwydiant yn ystod y 1950au a’r 1960au. Ym mis Gorffennaf 1969, arwisgwyd y Tywysog Siarl yn Dywysog Cymru ar lwyfan o lechfaen Dinorwig yng Nghastell Caernarfon. Fis yn ddiweddarach, caewyd Chwarel Dinorwig.