Canllaw i'r Amgueddfa

Croeso cynnes i Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Cartref yr Amgueddfa yw y Gilfach Ddu — hen weithdai Chwarel Dinorwig.

[delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

Yn y gweithdai hyn y gwnaed holl waith trwsio a chynnal a chadw chwarel a gyflogai dros 3,000 o ddynion. Atseiniai ponciau'r chwarel uwchlaw Gilfach Ddu yn sŷn y ffrwydriadau mawr a ryddhái'r llechi o'r graig. Islaw byddai'r gweithdai yn diasbedain yn sain morthwyl ac eingion, cŵn a gordd. Cydweithient i gynnal diwydiant a oedd, ar ei anterth, yn allforio miloedd o dunnelli o lechi Cymru i bedwar ban byd.

Caewyd Chwarel Dinorwig ym 1969. Nid saernïo wagenni a bwrw cledrau sydd yma heddiw ond adrodd hanes arbennig iawn: stori'r diwydiant llechi yng Nghymru. Yn y fan hon cewch fynd ar daith trwy orffennol diwydiant a ffordd o fyw a naddodd eu hunain yn ddwfn i gymeriad ein gwlad. Cewch glywed stori afaelgar sy'n cwmpasu digwyddiadau hanesyddol mawr, a manylion bychain bywyd bob dydd. Cynni a chynnen, cyfoeth a chydlafurio: holl ddrama hanes pobl go iawn.

[delwedd: Grŵp]

‘Roedd y Gilfach Ddu yn galon i'r Dinorwig. Odd ishe calon go fowr i'r chwarel i gyd ond deth achos oedd na 3,700 yn gweithio yno pan es i yno yn y chwarel. Felly odd eisie calon go fowr i sypleio hwnnw hefo bob peth.’

Gwybodaeth

Llanberis, Gwynedd
Ar agor 10am-5pm bob dydd (Pasg-Hydref), 10am-4pm Sul-Gwener (Tachwedd-Pasg)

Ffôn:
(029) 2057 3700

Switsfwrdd (cost galw safonol): 0300 111 2 333

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.