Cyfnod Allweddol 2, Athrawon

Ceisiadau nawr ar agor - Ymchwiliad bylbiau’r gwanwyn i ysgolion.

Ar gael ym mhob un o'n hamgueddfeydd

Plannwch fylbiau ar dir eich ysgol er mwyn astudio newid yn yr hinsawdd. Ymunwch â’r ymchwiliad hwn
sy’n cael ei gynnal ledled y DU, a helpu i wella sgiliau rhifedd a gwyddoniaeth
yr un pryd. *Rhaid i bob ysgol wneud cais erbyn diwedd mis Gorffennaf er mwyn
cymryd rhan y mis Medi canlynol.

www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau

Ffurflenni gais: https://scan.wufoo.com/forms/bylbiauar-gwanwyn-i-ysgolion-a-ffurflen-gais/

Dyddiadau: Mis Medi – Mis Mawrth

Cwricwlwm

CA2 Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth ac ADCDF

Addysg Oedolion
Am ddimYn yr ysgol

Camau Cymraeg

Amgueddfa Lechi Cymru
Clawr Camau Cymraeg

Mae'r cynllun cyffrous newydd sbon yma'n rhoi cyfle i diwtoriaid Cymraeg i oedolion ddefnyddio Amgueddfa Lechi Cymru fel adnodd; caiff dysgwyr wella eu sgiliau iaith a chyfathrebu mewn amgylchedd naturiol Gymreig. Fe'i paratowyd gan Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru; mae'n rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ac yna'n hawdd i'w lungopïo.

Camau Cymraeg
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddimYn yr ysgol

Croeso i Lyfryn Cert Celf

Amgueddfa Lechi Cymru

Mae’r llyfryn hwn yn llawn gweithgareddau celf sy’n ymwneud â’r amgueddfa a’r diwydiant llechi.

Mae’n arbennig o addas ar gyfer pobl ifanc a phlant dros 7 oed – ond mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb roi cynnig arni!

Peidiwch â phoeni os nad ydych yn artist o fri – dim ond i chi fwynhau!

Cynhyrchwyd y llyfryn hwn diolch i nawdd gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddimYn yr ysgol

Llyfryn Fron Haul

Amgueddfa Lechi Cymru

Defnyddiwch y llyfryn hwn i ddarganfod mwy am y tai diddorol yma.

Wyddoch chi mai nid dyma gartref go iawn y tai bychain hyn? Am eu bod nhw mor arbennig ac wedi eu hadeiladu ar gyfer chwarelwyr a'u teuluoedd, penderfynwyd eu symud nhw garreg wrth garreg i fan hyn, Amgueddfa Lechi Cymru, i ddangos sut y byddai chwarelwyr yn byw ers talwm.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.