Archaeoleg Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae’r oriel archaeoleg Gwreiddiau wedi cau

[delwedd: Mur penglogau Gwreiddiau]

[delwedd: Gwreiddiau]

[delwedd: Gwreiddiau]

Mae’r oriel archaeoleg Gwreiddiau wedi cau ond gallwch ddysgu rhagor am gasgliadau archaeoleg Cymru a’r straeon maent yn eu hadrodd ar ein casgliad ar-lein Rhagor. Cynhelir Teithiau tu ôl i’r Llenni neu Sgwrs Awr Ginio i’ch diddanu wrth gyflwyno gwybodaeth am archaeoleg yng Nghymru, ein casgliadau a’n gwaith ymchwil. Ewch i dudalennau Digwyddiadau y wefan am restr o’r teithiau a’r sgyrsiau rhad ac am ddim yma.

Yn y cyfamser, gellir gweld arteffactau o’n casgliadau archaeoleg mewn amgueddfeydd ar draws Cymru, fel Amgueddfa Llangollen o Fehefin 2014 ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

Bydd y casgliad archaeoleg yn symud i Sain Ffagan fel rhan o Broject Creu Hanes – menter gyffrous gwerth £25.5 miliwn i weddnewid yr amgueddfa boblogaidd.

Mae’r oriel Gwreiddiau yn cael ei ddefnyddio fel storfa ac ar gyfer cadwraeth gwrthrychau cyn eu symud i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Caiff y casgliadau archaeoleg eu harddangos mewn orielau newydd fydd yn adrodd hanes pobl Cymru o’r brodorion cyntaf hyd heddiw a thu hwnt, gan ymestyn llinell amser y straeon gaiff eu hadrodd yn Sain Ffagan. Agorir yr orielau newydd yn 2017.

Y bwriad yn y dyfodol yw ailagor yr oriel fel gofod arddangos dros-dro Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2016.

Gwybodaeth

Parc Cathays, Caerdydd
Ar agor 10am–5pm Mawrth–Sul (Orielau yn cau am 4:45pm)

Ffôn:
(029) 2057 3000

Switsfwrdd (cost galw safonol): 0300 111 2 333

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.