Rydych chi yn:  >   > 

Teuluoedd

Amgueddfa Wlan Cymru

Mae gweithgareddau ymarferol ar gael i blant drwy gydol y flwyddyn yn Amgueddfa Wlân Cymru, yn cynnwys cribo â llaw a chardiau gwnio pwyth blanced.

Mae'r gweithgareddau rhyngweithiol yma yn cael eu cynnwys wrth i blant ddilyn llwybr y 'Stori Wlanog' o amgylch yr Amgueddfa sydd hefyd ar gael drwy gydol y flwyddyn.

Mae ein teithiau yn addas i'r teulu cyfan ac mae teuluoedd o bod oedran yn mwynhau gwylio ein peiriannau wrth eu gwaith.

Gall teuluoedd hefyd ddilyn taith ar eu liwt eu hunain drwy strydoedd cefn Dre-fach Felindre i weld lleoliadau nodedig y diwydiant gwlân. Nid yw'n addas defnyddio cadair wthio ar y teithiau yma.

Yn ystod gwyliau ysgol ceir rhaglen fwy cynhwysfawr o weithgareddau i'r teulu yn cynnwys cert celf lle gall plant ymgymryd â phob math o waith a gweithgareddau celf yn ogystal â gweithgareddau a theithiau i blant e.e. taith wyau yn ystod gwyliau'r Pasg. Cynhelir digwyddiadau penodol eraill yn yr Amgueddfa i gyd-fynd â gwyliau ysgol.

Digwyddiadau i'r Teulu

Digwyddiadau

Dyddiad DigwyddiadManylion
Teithiau Tywys o gwmpas yr AmgueddfaPawb / Am ddim / Cysylltwch â'r Amgueddfa i weld pryd mae'r rhain yn rhedeg ac argaeledd
Gorffennaf 1 2013–Tachwedd 15 2015Y Stori WlanogTeuluoedd / Am ddim
19 Gorffennaf–31 Awst 2014Cert Celf yr HafTeuluoedd / Am ddim

Cyfleusterau

  • Cadeiriau uchel
  • Ardal chwarae i blant yn y caffi
  • Ardal bwyd babi gydag offer cynhesu llaeth a llestri babi
  • Cyfleusterau newid babi
  • Mae mynediad i bobl anabl i bob ardal o'r Amgueddfa
  • Parcio am ddim

Siop yr Amgueddfa

Gellir prynu detholiad pwrpasol o deganau a chrefftau i blant yn ogystal ag ystod o lyfrau, sliperi a nwyddau gwlân i'r teulu cyfan yn ein siop. Mae dewis o flancedi babi gwlân hyfryd ar gael i'w prynu hefyd.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.