Amgueddfa Wlân Cymru

Oriel Decstilau

[delwedd: Oriel decstilau]

Nawr eich bod wedi gweld y broses o ddafad i ddefnydd, gallwch weld esiamplau o’r cynnyrch gorffenedig yn yr Oriel Decstilau.

Arddangosir detholiad o wisgoedd o’r casgliad Celtic Couture (gan Dr Sheila Harri) a grëwyd yn ystod y 1960au a’r 1970au.

Mae’n hanu o atgofion plentyndod o deulu agos a’r dyhead i gadw hunaniaeth Gymreig ymhell oddi cartref.

[delwedd: Oriel decstilau]

Mae’r casgliad hwn, a wnaed o wlanen a brynwyd o Felinau Cambrian, yn gasgliad sy’n deillio o angerdd am wlanen Gymreig.

Mae’r gwisgoedd hyn yn rhoi gwedd newydd ar frethyn Cymreig traddodiadol. Mae’r casgliad yn cynnwys gwisgoedd sy’n nodweddiadol o’r cyfnod, ond â gwahaniaeth – o siorts gwlanen a sgertiau mini, i steil dillad ‘chwaraeon’ a chasgliad wedi’i ysbrydoli gan y Mabinogi.

[delwedd: Oriel decstilau]

Dyluniwyd y casgliadau i greu delwedd fodern, syml a chwaethus wrth barchu natur y gwlân.

Mae yna hefyd gasgliad o siolau, crysau gwlanen traddodiadol, cwiltiau yn cynnwys rhai a gynhyrchwyd gan Felinau Cambrian yn ystod y 1960au a’r 1970au, a blancedi o wahanol felinau Cymru.

Gwybodaeth

Dre-fach Felindre
Ebrill–Medi: 10am–5pm, pob dydd; Hydref–Mawrth: 10am - 5pm, Maw–Sad

Ffôn:
(029) 2057 3070

Switsfwrdd (cost galw safonol): 0300 111 2 333

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.