Digwyddiadau

DigwyddiadGweithdy Brandon Mably: Cynllun Persian Poppy

Wedi'i Orffen
2 Ebrill 2013, 10am - 4pm
Pris £25 y pen
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Galwch (029) 2057 3070

Cyfle unigryw i gymryd rhan mewn gweithdy arbennig gan Brandon Mably, dylunydd gweu ac awdur o fri.

Mae Brandon yn cydweithio â’r dylunydd tecstilau adnabyddus Kaffe Fassett, a bydd y gweithdy yn cyd-fynd ag Arddangosfa o Weuwaith Kaffe Fassett yn yr Amgueddfa Wlân.

Mae’r ddau yn adnabyddus am ddylunio cynlluniau patrymog, lliwgar a thrawiadol a bydd y gweithdy yn gyfle i gyfranogwyr hogi eu defnydd o liw a magu'r hyder i gynllunio’u patrymau lliw eu hunain yn y dyfodol.

Rhaid archebu lle a thalu wrth archebu.

Dylai pob cyfranogwr ddod â nodwyddau gwau (o’r maint sydd fwyaf cyffyrddus iddyn nhw, awgrymir US 6-8), siswrn, ychydig o edau mewn o leiaf 6 lliw golau/llachar a 6 lliw tywyll/cyfoethog o leiaf, papur a phensil (dewisol), camera (dewisol).

Digwyddiadau