Rydych chi yn:  >   >   > 

Darnau fideo

  1. Detholiad o ffilm a wnaethpwyd gan Gwmni Richard Thomas and Baldwin i ddathlu dyfodiad Eisetddfod Genedlaethol Cymru i Lyn Ebwy yn 1958. Yma gwelwn y paratoadau a gorymdaith a defodau'r Seremoni Gyhoeddi yn 1957.

    ( Hawlfraint: 'Corus Packaging Plus')

    Glyn Ebwy, 1958

  2. Darn o seremoni urddo aelod newydd i'r Wisg Werdd, Urdd Ofydd, gan yr Archdderwydd Meirion yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a'r Cylch, 2000. Delme Thomas, cyn chwaraewr rygbi dros Lanelli, Cymru a'r Llewod, sy'n cael ei anrhydeddu yma.

    Llanelli, 2000

  3. Darn o seremoni'r Cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch, 2004. Dr Huw Meirion Edwards o Landre, Aberystwyth enillodd y Gadair am gerdd gaeth ar y testun 'Tir Neb'. Yr Archdderwydd oedd Robyn Llŷn a'r Arwyddfardd oedd Dyfrig ab Ifor. Gwnaethpwyd y Gadair gan Bob Davies.

    Seremoni'r Cadeirio, Casnewydd, 2004

  4. Darn o seremoni arwisgo'r Prif Lenor yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch, 2004. Annes Glynn o Riwlas, Bangor, enillodd y Fedal Ryddiaith am gyfrol o lên meicro, Symudliw. Yr Archdderwydd oedd Robyn Llŷn a'r Arwyddfardd oedd Dyfrig ab Ifor.

    Seremoni'r Fedel Ryddiaith, Casnewydd, 2004

  5. Darnau o seremonïau croesawu'r Gorseddau Celtaidd a'r Coroni yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch, 2004. Dr Jason Walford Davies, Bangor oedd yn fuddugol am bryddest ar y testun 'Egni'. Yr Archdderwydd oedd Robyn Llŷn; yr Arwyddfardd: Dyfrig ab Ifor; yr Utganwyr: Dewi Griffith a Paul Hughes; y Cofiadur: Jâms Niclas; Ceidwad y Cledd: Ray o'r Mynydd; Cyflwynydd y Corn Hirlas: Diane Ebo; Cyflwynydd y Flodeuged: Eleri Mai Hallett. Gwnaethpwyd y Goron gan Helga Prosser.

    Seremoni'r Coroni, Casnewydd, 2004

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.