Caerdydd: y porthladd cynddiwydiannol.
Caerdydd: y porthladd cynddiwydiannol. Dwy slŵp ar lannau afon Taf, fel y'u portreadwyd gan Paul Sandby yn 1776.
Caerdydd: y porthladd diwydiannol. Awyrlun yn dangos y dociau gorffenedig yn eu cyfanrwydd tua 1948.
Caerdydd: y porthladd diwydiannol. Awyrlun yn dangos y dociau gorffenedig yn eu cyfanrwydd tua 1948.
Un o longau cargo nodweddiadol Caerdydd - SS Pontwen, a adeiladwyd yn 1914.
Un o longau cargo nodweddiadol Caerdydd - SS Pontwen, a adeiladwyd yn 1914.
Cyfnod y dirwasgiad. Llongau segur yn nociau Caerdydd tua 1930.
Cyfnod y dirwasgiad. Llongau segur yn nociau Caerdydd tua 1930.
Caerdydd: y porthladd wedi'i drawsffurfio.
Caerdydd: y porthladd wedi'i drawsffurfio. Bellach, saif datblygiadau adwerthol modern yn y man lle yr arferai glo gael ei allforio i bedwar ban byd.

Ail Ardalydd Bute

Yn 1862, allforiwyd 2,000,000 o dunelli metrig o lo o Ddociau Caerdydd; erbyn 1913 roedd y cyfanswm hwn wedi codi i 10,700,000 tunnell fetrig. Y cyfnod hwn oedd yr oes aur cyn dirwasgiad y 1930au.

Caerdydd, heb os, oedd tref ffyniannus Prydain ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd. Am ychydig flynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y tunelli o gargo a drafodwyd yn y porthladd yn drech na thunelledd Llundain neu Lerpwl. Eto i gyd, ddiwedd y ddeunawfed ganrif, roedd '...two sloops trading to Bristol on alternate days' yn ddigon i drafod masnach Caerdydd! Beth fu'n gyfrifol am y trawsnewidiad hwn?

Twf y diwydiant haearn ym mlaenau cymoedd de Cymru fu'r sbardun gwreiddiol i ddatblygiad Caerdydd fel porthladd. Yn 1794, cwblhawyd Camlas Morgannwg a gysylltai Caerdydd â Merthyr, ac yn 1798 adeiladwyd basn yn cysylltu'r gamlas â'r môr. Bu'r galw cynyddol am gyfleusterau doc priodol yn fodd i ddarbwyllo ail Ardalydd Bute, tirfeddiannwr mwyaf blaenllaw Caerdydd, i hyrwyddo'r gwaith o adeiladu Doc West Bute, a agorwyd ym mis Hydref 1839. Prin ddwy flynedd yn ddiweddarach, agorwyd Rheilffordd Dyffryn Taf.

Glo ddisodli haearn

O'r 1850au ymlaen, dechreuodd glo ddisodli haearn fel sylfaen diwydiannol de Cymru, pan ddechreuwyd cloddio gwythiennau dwfn Cwm Rhondda a Chwm Cynon. Ymhen dim o dro, glo rhydd de Cymru fyddai i gyflenwadau egni'r byd yr hyn yw olew heddiw, ac mor gynnar â 1862 câi 2 filiwn o dunelli metrig ei allforio. Agorwyd doc ychwanegol, yr East Bute, yn 1859, ond yn dilyn marwolaeth yr ail Ardalydd yn 1848 roedd ymddiriedolwyr Stad Bute yn orofalus ac yn gyndyn i fuddsoddi mewn cyfleusterau doc newydd.

Arweiniodd y rhwystredigaeth yn sgil y diffyg datblygu yng Nghaerdydd at agoriad dociau cystadleuol ym Mhenarth yn 1865 a'r Barri yn 1889. Yn y pen draw, bu'r datblygiadau hyn yn gymhelliad i Gaerdydd weithredu a gwelwyd agor Doc y Rhath yn 1887, a Doc y Frenhines Alexandra yn 1907. Erbyn hynny, câi oddeutu 9 miliwn o dunelli metrig o lo y flwyddyn ei allforio, llawer ohono yn howldiau llongau cargo a oedd yn eiddo i berchnogion lleol.

Cargoau o lo

Llong ager gyntaf Caerdydd oedd y llong fach Llandaff a adeiladwyd yn 1865, a hon oedd y gyntaf o fflyd o longau ager a dyfodd yn gyflym ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn 1910, roedd tua 250 o longau cargo a oedd yn eiddo i gwmnïau adnabyddus megis Cory, Morel, Radcliffe, Tatem a Reardon Smith, oll o Gaerdydd. Bob dydd, arferai penaethiaid y cwmnïau hyn gwrdd yn y Gyfnewidfa Lo ysblennydd yn Sgwâr Mount Stuart er mwyn trefnu cargoau o lo ar gyfer eu llongau. Roedd y fasnach hon yn ei hanterth yn 1913, pan allforiwyd 10.7 miliwn o dunelli metrig o lo o'r porthladd.

Rhyfel Byd Cyntaf

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd bri mawr ar y fasnach longau yng Nghaerdydd, ac yn 1920 roedd 122 o gwmnïau llongau mewn bod. Fodd bynnag, byrhoedlog fu'r cyfnod ffyniannus; roedd pwysigrwydd olew fel tanwydd llongau ar gynnydd ac ymhen dim o dro sicrhaodd telerau Cytundeb Versailles fod digonedd o lo iawn rhad yr Almaen ar gael ledled Ewrop. Erbyn 1932, pan oedd y dirwasgiad yn ei anterth, câi llai na 5 miliwn o dunelli metrig o lo ei allforio ac roedd dwsinau o longau a oedd yn eiddo i berchnogion lleol yn segur. Mewn gwirionedd, ni lwyddodd Caerdydd i ailgodi ar ei thraed wedi'r cyfnod o ddirwasgiad ac, er gwaethaf prysurdeb mawr y porthladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gostwng fu hanes yr allforion glo, masnach a ddaeth i ben yn gyfan gwbl yn 1964.

Porthladd Caerdydd heddiw

Heddiw, mae pryd a gwedd porthladd Caerdydd yn gwbl wahanol i'r hyn ydoedd ganrif yn ôl. Trawsffurfiwyd y glannau yn gyfan gwbl gan yr argae sy'n cronni afonydd Taf ac El'i, gan greu llyn dŵr croyw mawr. Bellach, saif fflatiau drudfawr lle yr arferai craeniau glo sefyll, a disodlwyd tafarnau garw'r gymdeithas forwrol gan fistros parchus. Dau ddoc yn unig, y Rhath a'r Frenhines Alexandra, a gaiff eu defnyddio, ac er eu bod yn ffynnu - diolch i'w diddordebau byd-eang - dim ond dau gwmni llongau sydd ar ôl.

Hyd heddiw, mae rhywfaint o fasnach mewn coed, olew, sgrap a chynwysyddion, ond mae'r dyddiau pan oedd y porthladd yn llawn llongau cargo dan orchudd o lwch glo wrth iddynt lwytho'r 'diemyntau du' a ddeuai o gymoedd de Cymru, wedi hen fynd heibio.

Darllen Cefndir

Cardiff and the Marquesses of Bute, gan John Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru (1981).

Cardiff Shipowners, gan J. Geraint Jenkins a David Jenkins. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (1986).

Coal Metropolis: Cardiff, 1970-1914, gan Martin Daunton. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caerlŷr (1977).

Gadael sylw