Cyflwyniad
'Bioamrywiaeth' yw'r gair a ddefnyddiwn pan fyddwn yn sôn am 'amrywiaeth pethau byw'. Y mae'r amrywiaeth hwn yn hanfodol gogyfer â'n hiechyd, ein ffyniant a'n lles. Rydym yn cael ein bwyd o amryw fathau o anifeiliaid a phlanhigion, ac rydym yn darganfod cyffuriau newydd a phwerus yn y fforestydd a'r môr yn barhaus.
Rydym yn dal i ddarganfod rhywogaethau newydd o blanhigion ac anifeiliaid: prin yw'r rhai y gwyddom rywbeth am eu ffordd o fyw, am eu harferion, am eu hoff bethau a'u perthynas â'i gilydd. Os ydym am ddeall y cymhlethdod, y mae'n rhaid inni adnabod y darnau unigol sy'n rhannau hanfodol ohono, rhaid inni ddeall yr amrywiaeth a'r bioamrywiaeth sydd ynddo.
Rhaid inni ddeall hefyd y berthynas sydd rhwng y gwahanol rywogaethau a'i gilydd, nid yn unig yn eu hymwneud â'i gilydd fel bodau byw (e.e.y cydberthynas rhwng pryfed a blodau o bob math) ond hefyd hanes eu hesblygiad.
'BioSyB' yw'r enw ar ddwy o'r adrannau gwreiddiol yn ein hamgueddfa, Botaneg a Swoleg, gan ei fod yn egluro'n fwy cywir yr hyn a wnawn:
- rhoi enwau ar blanhigion ac anifeiliaid, a'r astudiaeth o'u dosbarthiad, hanes eu hesblygiad, ffurf a strwythur.
- pob agwedd ar ffisioleg, geneteg, biocemeg, ymddygiad a bioleg molecwlau.
Am ragor o wybodaeth, dewiswch un o'n meysydd gwaith o'r dewislen ar y chwith.
Symbiont
Mae copi o'n cylchlythyr adrannol 'The Symbiont' ar gael yma:
- Y Symbiont - Haf 2012
- Y Symbiont - Gaeaf 2011
- Y Symbiont - Haf 2011
- Y Symbiont - Gaeaf 2010/11
- Y Symbiont - Haf 2010
- Y Symbiont - Gaeaf 2009
Ymholiadau
Am ymholiadau cyffredinol, defnyddiwch ein ddalen ymholiadau neu cysylltwch â'r adran yn uniongyrchol:
Adran Bioamrywiaeth a Bywydeg Gyfundrefnol
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NP
Ffôn: +44 (0) 29 2057-3224
Ffacs: +44 (0) 29 2023-9829
Ffurflen E-bost
Cynnwys cysylltiedig o rhagor
Erthyglau: Blodau gwyllt anhymhorol yng Nghaerdydd: Gaeaf 2012
20 Rhagfyr 2012Erthyglau: Rhywogaeth newydd i wyddoniaeth: Pryfed Dawnsio o Chile
26 Tachwedd 2012Orielau: Pengwiniaid yr Antarctig
29 Mai 2012
» Darllenwch fwy o straeon am ein casgliadau ar ein gwefan Rhagor.










