Rydych chi yn:  >   >   > 
English

Hanes yr Adran

Y Ganolfan Gasgliadau, Nantgarw
Y Ganolfan Gasgliadau, Nantgarw

Gwnaeth y newidiadau mawr i bob agwedd ar ddiwydiant Cymru yn ystod y blynyddoedd wedi'r Ail Ryfel Byd ddarbwyllo Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1959 i sefydlu Adran Ddiwydiant er mwyn casglu a chofnodi ym maes diwydiant, masnach forwrol a thrafnidiaeth.

Cyn sefydlu'r Adran Ddiwydiant, roedd yr Adran Ddaeareg wedi ymgymryd â pheth gwaith casglu ym maes daeareg economaidd ac, i raddau llai, ym maes diwydiant Cymru, masnach forwrol, a thrafnidiaeth. O ganlyniad roedd cnewyllyn o gasgliad y gellid adeiladu arno pan benodwyd David Morgan Rees (1913-1978) yn bennaeth cyntaf yr Adran Ddiwydiant yn 1959.

Bu Morgan Rees yn gyfrifol am ddatblygu'r Adran nid yn unig drwy gasglu gwrthrychau o ddiwydiannau hen a newydd Cymru a thynnu nifer fawr o luniau o agweddau ar ddiwydiant a oedd yn prysur ddiflannu, ond hefyd drwy ddarlithio, darlledu a chyhoeddi ar raddfa eang. Yng Nghymru, fe chwaraeodd ef ran ganolog yn y gwaith o sefydlu a phoblogeiddio astudiaeth o archaeoleg ddiwydiannol, pwnc newydd ar y pryd, a helpu i sicrhau gwarchodaeth nifer o gofadeiliau diwydiannol yn ystod cyfnod a welodd lawer o hen safleoedd diwydiannol yn cael eu hadfer.

Datblygodd yr Adran yn rhy fawr i'w chartref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng nghanol y ddinas ac yn 1977 dechreuwyd ei symud i'r Amgueddfa Diwydiant a Môr, cangen newydd o Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Nociau Caerdydd. Y bwriad gwreiddiol oedd y byddai'r newydd y gyntaf o bedair oriel i'w codi o amgylch Basn West Bute, ond yn ystod y 1980au gwelwyd datblygiad llai pan feddiannwyd nifer o adeiladau hanesyddol yng nghyffiniau Bae Caerdydd dan arweiniad Dr Geraint Jenkins (Curadur 1979-87) a Dr Stuart Owen-Jones (Ceidwad 1987-98).

Pan agorwyd Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru roedd yng nghanol rhan o Ddociau Caerdydd a oedd yn dirywio. Yn ystod y degawd dilynol sefydlwyd Corfforaeth Ddatblygu Bae Caerdydd ond wrth i'r gwaith o ailddatblygu Bae Caerdydd fynd rhagddo, deuai dyfodol yr Amgueddfa yn llai sicr. Wedi rhai blynyddoedd o ansicrwydd penderfynwyd adleoli'r Amgueddfa; awgrymwyd nifer o safleoedd newydd ac wedi ystyriaeth fanwl, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, dewiswyd Abertawe, ail ddinas Cymru.

Wedi i'r Amgueddfa Diwydiant a Môr gau yn 1998, symudwyd dros 2,000 o wrthrychau mawr i'r Ganolfan Gasgliadau newydd yn Nantgarw, ychydig i'r gogledd o Gaerdydd. Dilynodd y casgliadau llai, yr archifau, y casgliadau o ffotograffau a'r llyfrgell yn 2000 ar ôl datblygu'r Ganolfan Adnoddau Archif o fewn y Ganolfan Gasgliadau. Rydyn ni'n bwriadu datblygu'r Ganolfan Gasgliadau a'r Ganolfan Adnoddau Archif ymhellach o lawer er mwyn cadw holl gasgliadau ymchwil yr Amgueddfa mewn storfa fodern a hygyrch a fydd yn arwain at fwy o ddefnydd ohonynt gan arbenigwyr ac aelodau o'r cyhoedd fel ei gilydd.