Rydych chi yn:  >   > 

Amgueddfa Cymru

Cyflwyniad

Croeso i'r Adran Ddiwydiant.

Mae gan Gymru draddodiad hir ac anrhydeddus fel gwlad ddiwydiannol. Mae cyfrifiad 1851 yn cofnodi mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd a chanddi gyfran uwch o'r gweithlu yn gweithio ym myd diwydiant yn hytrach nag amaethyddiaeth.

[delwedd: Arrow pointing right]

Darllenwch fwy o straeon am ein casgliadau ar ein gwefan Rhagor.

Felly, gall Cymru hawlio mai hi yw'r 'wlad ddiwydiannol gyntaf yn y byd'. Amrywiol y bu ei diwydiannau ar hyd y canrifoedd a hyd yn oed heddiw, wrth i ddiwydiannau mawrion y blynyddoedd a fu ddiflannu, daw rhai newydd yn eu lle.

Nid oes yn unman well detholiad o wrthrychau a darluniau sy'n adlewyrchu'r newidiadau hynny na'r rheini ymhlith ein casgliadau, ac rydym yn eich gwahodd i fwrw golwg hamddenol ar ein gwefan ac i ddarganfod mwy am dreftadaeth ddiwydiannol un o'r gwledydd mwyaf diddorol ar wyneb Daear.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.