English

Amgueddfa Cymru

Hafan

Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Digwyddiadau

DigwyddiadGŵyl Floralia – Bwytewch, Yfwch a Byddwch Lawen!

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
5 Mai 2014 , 11am - 4pm

Dewch i ddathlu’r ŵyl Rufeinig gyda ni! Cawn fwyta ac yfed, bydd gemau i’w chwarae, ymladd i’w wylio a chystadlaethau ar eich cyfer – ond wnawn ni ddim mentro i dir aberthu anifeiliaid!

 

Fflora oedd un o dduwiesau hynaf y grefydd Rufeinig. Hi oedd duwies blodau, planhigion a ffrwythlondeb. Dathlwyd ei gŵyl ar 27 neu 28 Mai, ond yn ogystal â hynny, cynhaliwyd gemau 6 diwrnod er anrhydedd iddi. Mae’n debyg i eliffant gerdded ar hyd rhaff dynn yn un o gemau’r Ymerawdwr Galba! Byddai’r gemau fel arfer yn cynnwys gladiatoriaid yn ymladd, cystadlaethau a sioeau theatrig.

 

Digwyddiadau