Amgueddfa Cymru

Hafan
Digwyddiadau

DigwyddiadMis Hanes LDHT: Dathlu a Chasglu

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
22 Chwefror 2014 , 11am - 4pm

Mae Sain Ffagan wedi bod yn atyniad teuluol erioed. Ar ddydd Sadwrn 22 Chwefror, fel rhan o’n rhaglen Mis Hanes LHDT, byddwn yn dathlu teuluoedd LHDT. 

Dewch i ddarganfod a chyfrannu i gasgliad hanes teuluoedd yr Amgueddfa drwy rannu storiau a phrofiadau, a chynnig gwrthrychau a lluniau. 

Clywch fwy am ailddatblygiad Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, a byddwch ran o’n prosiect Creu Hanes.

 

Digwyddiadau