Amgueddfa Cymru

Hafan
Digwyddiadau

DigwyddiadClwb Llyfrau’r Glannau: Seating Arrangements

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
10 Tachwedd 2013 , 2pm

Comedi foesau clyfar yw Seating Arrangements gan Maggie Shipstead – mae’n un o werthwyr gorau’r New York Times ac yn enillydd Gwobr Dylan Thomas 2012.

Lleolir y nofel ddychan gymdeithasol hon ar ynys ddethol yn New England dros benwythnos priodas ym mis Mehefin. Cawn gipolwg beiddgar ar fywydau’r uchel eu dosbarth a’r isel eu safonau – bydd digonedd i’w drafod.

Bydd y sesiwn yn cychwyn gyda chyflwyniad am yr awdur gan ein Cadeirydd, Margaret Jones a fydd yn ein harwain wedyn trwy drafodaeth am bynciau’r llyfr a bydd cyfle i rannu safbwyntiau a dweud eich dweud.

Dyma ffordd ddelfrydol o dreulio prynhawn Sul, a bydd paned am ddim!

Digwyddiadau