English

Amgueddfa Cymru

Hafan

Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Digwyddiadau

DigwyddiadGelynion Rhufain

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
28 Hydref1 Tachwedd 2013 , 11am - 4pm

Roedd yr Ymerodraeth Rufeinig yn llwyddiannus iawn, yn rhannol am fod y Rhufeiniaid yn dda iawn am ddwyn syniadau pobl eraill a’u defnyddio er eu budd eu hunain!

Roedd gan lawer o ddiwylliannau eraill syniadau gwych a byddwn yn cymryd cipolwg arnynt yn ein gweithdai.

Tybir mai’r Celtiaid wnaeth ddyfeisio maelwisg – yn union fel mae Canwriad Rhufeinig yn ei wisgo. A beth am holl dduwiau a duwiesau’r Groegiaid? Roedd rhai’r Rhufeiniaid yn debyg iawn iddyn nhw.

Pwy oedd y saethwyr Rhufeinig gorau? Pobl o ddwyrain yr Ymerodraeth...

Dewch i roi tro ar greu torch allwedd maelwisg Celtaidd, malu grawn o’r Aifft neu ddysgu am y duwiau a’r duwiesau Rhufeinig.

Digwyddiadau