Amgueddfa Cymru

Hafan

Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Digwyddiadau

DigwyddiadTu Ôl i'r Llenni: Celf

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
17 Medi 2013 , 1.05pm

Posteri Bond 007

Gyda Clare Smith, Adran Gelf.

Ers i Sean Connery yngan y geiriau anfarwol ‘Bond, James Bond’ ym 1962, mae ffilmiau’r gyfres wedi dod yn rhan annatod o ddiwylliant Prydain

Rhoddodd y cwmni cynhyrchu United Artists bosteri o ffilmiau’r gyfres gyda Sean Connery a Roger Moore yn chwarae’r brif ran i Amgueddfa Cymru.

Dewch tu ôl i’r llenni ar gyfer sgwrs fydd yn trafod sut y cadarnhaodd y posteri ddelwedd Bond a datblygiad ei gymeriad trwy’r gwahanol ffilmiau ac actorion.

Caiff posteri clasuron Bond megis Goldfinger, Live and Let Die a Diamonds are Forever eu dangos a’u trafod er mwyn datrys sut mae cyfleu 120 o funudau o ddrama, rhamant ac ysbïo ar un poster.

Digwyddiadau