Amgueddfa Cymru

Hafan

Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Digwyddiadau

DigwyddiadFfilmiau Misol yn yr Amgueddfa: Amelia (PG, 2009)

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
21 Gorffennaf 2013 , 2pm

Dewch i wylio clasur o ffilm ar ein sgrin fawr yn Oriel Warws… yn rhad ac am ddim!

Dyma ffilm fywgraffyddol am fywyd y peilot enwog o America, Amelia Earhart. Yn enedigol o Kansas, darganfyddodd wefr hedfan yn 23 oed ac o fewn 12 blynedd roedd wedi ennill gwobr ‘Distinguished Flying Cross’ am mai hi oedd y fenyw gyntaf i hedfan ar ei phen ei hun ar draws Môr Iwerydd.

A hithau’n 39 oed, mentrodd i’r gwyll i hedfan o gwmpas y byd, a byddai’r antur yn sicrhau ei lle yn hanes hedfan.

(112 munud)

Digwyddiadau