Amgueddfa Cymru

Hafan
Digwyddiadau

DigwyddiadGweithdy Blodau Rygiau Rhacs a Garlantau'r Gwanwyn gyda Sue Clow

Amgueddfa Wlân Cymru
9 Chwefror 2013 , 11am - 4.30pm

Yn y gweithdy gwych hwn ar drothwy dydd San Ffolant a’r Gwanwyn, bydd cyfle i ddysgu sut i ddefnyddio technegau rygiau rhacs a garlantau i wneud tlysau siâp calonnau a blodau hardd, a thorchau a garlantau addurnol.

Gellir defnyddio’r technegau yma i addurno pob math o decstilau, fframiau lluniau ac addurniadau gwallt. Dyma ffair o liw a gweadau ar gyfer y Gwanwyn.

Cost: £30. Dim mwy na 15 person. Darperir yr holl ddeunyddiau ac offer, ond ceisiwch ddod â siswrn gyda chi.

I archebu eich, ffoniwch Sue ar 01974 282530 neu e-bostiwch sue@ragartstudios.com.

Ewch i'r gwefannau am ragor o ysbrydoliaeth: www.ragartstudios.com, www.zalingai.co.uk a www.kaotickittus.co.uk

Dilynwch Sue ar Facebook hefyd: www.facebook.com/RagArtWorkshops 

Digwyddiadau