Rydych chi yn:  > 
Oedolion / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa

Tu ôl i’r Llenni: y Llyfrgell

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 30 Medi 2014, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Llyfrgell Amgueddfa Cymru

Dewch gyda ni ar daith drwy ein harchifau a’n llyfrau lloffion a gweld sut le oedd yr Amgueddfa ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif.

Dewch i’r Llyfrgell i weld beth oedd ymlaen yn Amgueddfa Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys newyddion y staff, hynt a helynt adeiladu’r Amgueddfa a chipolwg ar gatalogau arddangosfa gwreiddiol.