Rydych chi yn:  > 
Pawb / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa

Sgwrs Amser Cinio: Archaeoleg: Gweithfeydd Haearn Cyfartha, Merthyr

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 2 Gorffennaf 2014, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

Gweithfeydd Haearn Cyfartha, Merthyr

Martin Tuck,Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg a Gwent (GGAT)

Ymunodd Martin ag Ymddiriedolaeth Archaeoleg Morgannwg a Gwent yn wreiddiol ym 1985 wedi chwe mlynedd yn y fyddin, gan weithio am flwyddyn yn cloddio canabae Rhufeinig Caerllion. Yn ystod pedair mlynedd ar ddeg yn gweithio ar amryw brojectau i gwmni peirianneg, mwyngloddio, ac arolygu topograffig – gan gynnwys pont newydd Hafren – parhaodd ei ddiddordeb mewn archaeoleg a gwirfoddolodd ar nifer o gloddiadau lleol cyn mynd ati i gynnal ei ymchwiliad cloddio ei hun ger Caerllion. Ailymunodd â’r Ymddiriedolaeth yn 2001 ac ers hynny mae wedi cynnal nifer o gloddiadau ar draws Cymru a de-orllewin Lloegr. Yn ddiweddar arweiniodd Martin dîm yn gweithio ar weddillion diwydiannol o’r 19eg ganrif yn Ffos-y-fran, Merthyr Tudful yn ogystal â gweddillion caer Rufeinig o’r ganrif gyntaf yng Nghastell Nedd. Gwnaeth Martin ei waith cloddio mawr diwethaf ar adeiladau colsio o’r 18fed a’r 19eg ganrif yng Ngweithfeydd Dur Cyfarthfa.