Rydych chi yn:  > 
Pawb / £2 y pen. / Galwch draw, does dim rhaid archebu.

Mwynhau Gwaith Metel

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 12 a 13 Gorffennaf 2014, Sadwrn 11am-4pm, Sul 2-4pm

 

I ddathlu Gŵyl Archaeoleg 2014, byddwn yn gwahodd gof Rhufeinig i arddangos ei grefft.

 

Os hoffech chi roi cynnig ar rywbeth creadigol y penwythnos hwn, dewch draw i’n gweithdy crefftau weiar a ffoil boglynnu.

 

Roedd pobl yr henfyd yn gweld gwaith metel fel rhywbeth gwyrthiol – roedd cymryd lwmpyn o’r ddaear a’i doddi’n hylif a ellid ei droi’n arfau a gemwaith yn arallfydol bron. Fwlcan oedd duw tân, ac o’r herwydd, ef oedd duw’r gofaint hefyd ac yn aml iawn, mae’r cerfluniau ohono ar ffurf gof.

 

Nid yw offer gofaint wedi newid fawr ddim dros filoedd o flynyddoedd. Yn ei hanfod, yr unig offer sydd ei angen arnoch i droi metel yn gampwaith yw tân, morthwyl ac einion. Ond mae’r grefft hefyd yn gofyn am nerth a dealltwriaeth o’r metel, yn ogystal â’r gallu i wneud gwaith manwl ac amynedd.