Rydych chi yn:  > 
Teuluoedd / £2 y plentyn. / Mynediad olaf 3.30pm. Galwch draw, does dim rhaid archebu.

Cynefin Cleopatra

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 2630 Mai 2014, 11am - 4pm

 

Er i’r Aifft ddod yn rhan o’r Ymerodraeth Rufeinig, roedd yn benderfynol o ddal ei gafael ar ei hunaniaeth gref. Yn y gweithdy hanner tymor hwn, byddwn yn dysgu mwy am yr Aifft Rufeinig trwy grefftau a gweithgareddau.

 

Roedd y Rhufeiniaid yn gweld yr Aifft fel lle egsotig, ac ychydig bach yn beryglus – cofiwch am hanes enwog Cleopatra! Â chanddi hanes hir a chyfoethog, doedd yr Aifft ddim yn bwriadu colli gafael ar hynny wedi iddi ddod yn un o daleithiau’r Ymerodraeth Rufeinig yn 30 CC. Llwyddodd i fasnachu ei nwyddau ledled yr Ymerodraeth, gan gynnwys grawn i Rufain, gan ennill iddi deitl ‘basged fara’r Ymerodraeth’.