Rydych chi yn:  > 
Teuluoedd / Am ddim / Gweithgaredd galw heibio, ond nifer benodol o lefydd fydd ar gael.

Anfon Cysur i Faes y Gad: Gweithdai Rhyfel Byd Cyntaf i Deuluoedd

16–17 a 23–24 Awst, 11am-1pm a 2pm-4pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
red poppy

Drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd menywod eu hannog i weu a gwnïo pethau i’w hanfon mewn parseli i’r milwyr oedd dramor. Dewch i weld cynnwys parseli tebyg, gwisgo atgynyrchiadau o rai o’r eitemau a rhoi tro ar hen beiriant gweu sanau a pheiriant gwnïo.