Rydych chi yn:  > 
Pawb / Am ddim

Tirluniau gan J. D. Innes: Gogoniant y Gwyllt

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 12 Ebrill–20 Gorffennaf 2014 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
golygfa o'r Arenig gan J D Innes
Arenig J. D. Innes (1887 - 1914) © Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Yn ystod ei fywyd byr a thrasig, paentiodd yr artist o Gymro James Dickson Innes (1887-1914) weledigaeth unigryw o dirwedd Cymru mewn arddull Ôl-Argraffiadol hynod liwgar.

I nodi can mlynedd ers marwolaeth yr artist, bydd yr arddangosfa yn rhoi golwg newydd i ni ar waith yr artist hwn a esgeuluswyd hyd yn hyn. Gyda chymorth Ymddiriedolaeth Celf Brycheiniog.