Rydych chi yn:  > 
Pawb / Am ddim

“Dyn ni ‘na eto?” – Gwyliau Teulu mewn Carafán

14 Mehefin–28 Medi 2014, 10am - 5pm

Dewch i ail-fyw eich atgofion o wyliau a chael eich ysbrydoli gan ein carafan o’r 1950au.

Fe’i hadeiladwyd yng Nghaerdydd a bu’n gyfaill ffyddlon i’r un teulu am drigain mlynedd.

O baratoi picnic yn y gegin fach, i seddi sy’n troi’n welyâu a gemau i’w chwarae pan fo’n arllwys y glaw, bydd ein harddangosfa’n siwr o’ch hatgoffa o’r dyddiau da – heb dagfa draffig i darfu ar y daith!