Rydych chi yn:  > 
Pawb / Am ddim

Constable: Salisbury Cathedral from the Meadows

7 Mawrth–7 Medi 2014 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
John Constable, Salisbury Cathedral from the Meadows 1831

Salisbury Cathedral from the Meadows 1831
John Constable (1776 – 1837)
Ffotograff © Tate, Llundain 2013

Prynwyd gan Tate gyda chymorth y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Sefydliad Manton a'r Gronfa Gelf (gyda chyfraniad gan Sefydliad Wolfson) ac Aelodau Tate, mewn partneriaeeth gydag Amgueddfa Cymru-Museum Wales, Gwasanaeth Amgueddfaol Caer Colun ac Ipswich, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban; ac Amgueddfa Caersallon a De Wiltshire.

Logo Aspire
Logo'r HLF
Logo'r Art Fund
Logo'r Tate

Ystyrir Salisbury Cathedral from the Meadows 1831 ymhlith tirluniau enwocaf John Constable.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fydd y cyntaf o bum lleoliad i arddangos y paentiad chwe throedfedd pwysig hwn a brynwyd yn ddiweddar gan Tate. Hefyd i'w gweld bydd gweithiau eraill gan Constable ac artistiaid a'i ysbrydolodd ef ac a gafwyd eu hysbrydoli ganddo.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau addysg i gyd-fynd â'r arddangosfa.

Mae Aspire yn raglen bartneriaeth sy'n rhoi cyfle i gynulleidfaoedd o bob oed fwynhau'r gwaith a dysgu mwy am waith John Constable trwy fynd â Salisbury Cathedral from the Meadows 1831 ar daith i bum lleoliad yn y DU. Cefnogir Aspire gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a'r Gronfa Gelf.

 

Digwyddiadau Cysylltiedig

12 Meh 2014
Cwrs Athrawon: Constable, Lluniau a Llythrennedd

Mwy o wybodaeth

Gallwch archwilio Salisbury Cathedral from the Meadows 1831 yn fanwl ar ein tudalen ryngweithiol.

Lawrlwythwch becyn i athrawon, am ddim ar ein tudalennau Adnoddau Dysgu.

Llenwi'r arolwg ar yr arddangosfa yma.