Rydych chi yn:  > 
Pawb / Am ddim

Ffair Briodas

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 6 Ebrill 2014, 11am - 4pm

Os ydych chi’n brysur yn cynllunio’ch diwrnod perffaith, mae gennym leoliad delfrydol i chi. Galwch draw i weld Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ym Marina hardd Abertawe. Cewch gwrdd â’r arddangoswyr a ddewiswyd yn arbennig yn Neuadd Weston, a chael taith o gwmpas ein lleoliad unigryw.

Mynediad am ddim, adloniant byw a bagiau rhodd am ddim gan Debenhams.

Ar y cyd ag Eternity with Love Wedding Fayres.

Oeddech chi’n gwybod y gallech chi briodi yn yr Amgueddfa? Dewch ar daith am ddim o’r gofodau sydd ar gael.

Teithiau Priodas - 11am, hanner dydd, 1pm, 2pm a 3pm.