Rydych chi yn:  > 
Pawb / Am ddim

Sgwrs: Steil a Delwedd

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 25 Hydref 2013, 2pm – 2:30pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

Dewch i ystyried y berthynas rhwng celf a ffasiwn drwy baentiadau a ddylanwadodd ar ganrif o steil. Ymunwch ag Anne Pritchard, Curadur Celf Hanesyddol, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ar daith dywys fydd yn canolbwyntio ar weithiau gan artistiaid megis Rossetti, Renoir ac Augustus John.

Dim ond 20 lle sydd ar gael. Archebwch eich lle wrth gyrraedd yr Amgueddfa.

Trefnwyd y digwyddiad hwn mewn partneriaeth ag Artes Mundi sy’n cynnal cyfres o weithgareddau i gyd-fynd ag Wythnos Ffasiwn Caerdydd – bydd projectau, gweithdai a sgyrsiau yn seiliedig ar waith tecstilau un o artistiaid Mundi 5, Sheela Gowda.