Rydych chi yn:  > 
Pawb / Am ddim

Ymweliad â Chymru: Barddoniaeth, Rhamantiaeth a Myth Byd Celf

22 Chwefror–7 Medi 2014 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
<em>Capel-y-ffin</em>, David Jones
David Jones, Capel-y-ffin, 1926-27.
Trwy garedigrwydd Ystâd David Jones.
logo ymddiriedolaeth colwinston

Ym mis Gorffennaf 1967, daeth y bardd ‘Beat’ Americanaidd Allen Ginsberg i Gymru.

Aeth ati i ysgrifennu’r gerdd Wales Visitation wrth grwydro’r Mynyddoedd Duon dan ddylanwad LSD. Roedd y gerdd uchelgeisiol hon yn dychmygu’r gorffennol Celtaidd gan gyfeirio at y cysylltiad traddodiadol rhwng Rhamantiaeth a thirwedd a ll&ecirc;n gwerin Cymru.

Yn yr arddangosfa newydd hon yn yr orielau cyfoes, defnyddiwn gerdd Ginsberg fel man cychwyn i archwilio ffurfiau cyfoes a modern o ramantiaeth gyda gweithiau gan artistiaid megis David Jones, Richard Long, Graham Sutherland a Clare Woods. Gyda chymorth Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

Digwyddiadau Perthnasol