Rydych chi yn:  > 
English
Oedolion / Am ddim / Rhaid archebu lle. Ffôn: cost safonol (0300) 111 2 333

Clwb Llyfrau’r Glannau: Seating Arrangements

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 10 Tachwedd 2013, 2pm

Comedi foesau clyfar yw Seating Arrangements gan Maggie Shipstead – mae’n un o werthwyr gorau’r New York Times ac yn enillydd Gwobr Dylan Thomas 2012.

Lleolir y nofel ddychan gymdeithasol hon ar ynys ddethol yn New England dros benwythnos priodas ym mis Mehefin. Cawn gipolwg beiddgar ar fywydau’r uchel eu dosbarth a’r isel eu safonau – bydd digonedd i’w drafod.

Bydd y sesiwn yn cychwyn gyda chyflwyniad am yr awdur gan ein Cadeirydd, Margaret Jones a fydd yn ein harwain wedyn trwy drafodaeth am bynciau’r llyfr a bydd cyfle i rannu safbwyntiau a dweud eich dweud.

Dyma ffordd ddelfrydol o dreulio prynhawn Sul, a bydd paned am ddim!