Rydych chi yn:  > 

Amgueddfa Cymru

Oedolion / Am ddim

Dal dy Dir! Aeneas Tacticus a’r ddinas-wladwriaeth yng Ngroeg y 4edd ganrif CC

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 15 Chwefror 2014, 11am

[delwedd: ]

[delwedd: ]

Sgwrs gan Nick Barley, awdur How to Survive under Siege.

Aeneas Tacticus oedd un o’r awduron Groegaidd cynharaf i drafod rhyfel a dywedir mai ef oedd y cyntaf i lunio canllaw cyflawn ar gyfathrebu milwrol.

Mae gwaith ymchwil Nick Barley yn Adran Hanes a’r Clasuron Prifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar ryfela yn yr henfyd ac yn ceisio cyflwyno golwg newydd ac ymarferol ar ryfela Groegaidd. Mae’n ystyried y defnydd o gyfathrebu ac is-gadlywyddion ar faes y gad, yn ogystal ag ochr ymarferol hoplit a mathau eraill o frwydro troedfilwrol.

Trefnir gan y Gymdeithas Hanes.