Rydych chi yn:  > 
English
Pawb / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa

Sgwrs Amser Cinio Celf: Peter Blake a Chelf Bop

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 14 Chwefror 2014, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Collage © Syr Peter Blake

Collage
© Syr Peter Blake

“I wanted to make an art that was the visual equivalent of pop music”

Fel un o arloeswyr y mudiad Celf Bop ym Mhrydain yn y 1950au a’r 1960au, mae Peter Blake yn cael ei gyfri’n aml yn Dad Bedydd Pop Prydeinig. Yn ei waith, adlewyrchir ei ddiddordeb mewn diwylliant poblogaidd a cherddoriaeth. Bydd y sgwrs hon yn trafod ei le yn y Mudiad Celf Bop.

Ar ôl y sgwrs, byddwn yn dangos ffilm The Edge of Love (2008) am 2.30pm.