Rydych chi yn:  > 
English
Oedolion / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa

Tu ôl i’r Llenni: Y Gwyddorau Naturiol

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 4 Chwefror 2014, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Blodau Alpaidd
Blodau alpaidd

Dewch tu ôl i’r llenni i weld y casgliadau hanes natur.

Cewch gwrdd â’n gwyddonwyr, dysgu mwy am eu gwaith ymchwil a gweld sut maent yn gofalu am y gwrthrychau dan eu gofal.

Planhigion alpaidd-arctig ym Mhrydain 

Mewn ardaloedd gwyllt, anghysbell y mae planhigion alpaidd-arctig i’w gweld heddiw. Ar y daith hon, bydd ymwelwyr yn dysgu am ddosbarthiad a hanes y planhigion anhygoel yma, a sut y maent wedi addasu i’w cynefin.