Rydych chi yn:  > 
English
Pawb / Am ddim

Digwyddiad ‘Summer of Wildlife’ y BBC

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 15 Mehefin 2013, 10am - 5pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

Ymunwch â’r BBC, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a nifer o bartneriaid bywyd gwyllt o Gymru mewn diwrnod arbennig, yn rhad ag am ddim a’r gyfer y teulu ble bydd modd i chi ddarganfod mwy am gymdogion gwyllt anghyffredin.

Dewch yn agos i nadroedd, adar ysglyfaethus, draenogod, pryfetach a llawer iawn mwy.

Bydd cyfle i chi gwrdd â chyflwynwyr bywyd gwyllt y BBC Iolo Williams, Mike Dilger, Nick Baker a Miranda Krestovnikoff mewn cwis bywyd gwyllt i’r teulu yn Theatr Reardon Smith yn yr Amgueddfa.

Bydd yr holl weithgareddau yn cael eu cynnal o flaen Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Neuadd y Ddinas ac o fewn yr Amgueddfa.

Nodwch fod y digwyddiad am ddim. Fodd bynnag, bydd mynediad i rai o’r gweithgareddau ac y cwis yn Theatr Reardon Smith ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu.