Rydych chi yn:  > 
English
Pawb / Am ddim

Ffair Fwyd a Chrefftau'r Nadolig

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 30 Tachwedd 2013, 10am-3pm (Nodyn. Ar gau Dydd Llun a Dydd Sul Hydref–Mawrth)

Eleni bydd ein ffair grefftau blynyddol poblogaidd hefyd yn cynnwys stondinnau bwyd. Sdim ishe i chi fynd ymhellach ar gyfer eich siopa Nadolig. 

Bydd yr ystod eang o stondinau yn cynnwys crefftau gwledig, crefftau tecstilau, sebon, canhwyllau, cyffug, jamiau, pwdinau Nadolig a llawer mwy.

Dyma gyfle gwych i brynu anrhegion Nadolig unigryw a bwydydd cartref gan gefnogi cynhyrchwyr lleol.